Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, bwyta yr hyn a geffych, bwyta y llyfr hwn a dos, a llefara wrth dŷ Israel.

2. Yna mi a agorais fy safn, ac efe a wnaeth i mi fwyta'r llyfr hwnnw.

3. Dywedodd hefyd wrthyf, Bwyda dy fol, a llanw dy berfedd, fab dyn, â'r llyfr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi atat. Yna y bwyteais; ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster.

4. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cerdda, dos at dŷ Israel, a llefara â'm geiriau wrthynt.

5. Canys nid at bobl o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed y'th anfonir di, ond at dŷ Israel;

6. Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed, y rhai ni ddeelli eu hymadroddion. Oni wrandawsai y rhai hynny arnat, pe y'th anfonaswn atynt?

7. Eto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti; canys ni fynnant wrando arnaf fi: oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy, holl dŷ Israel.

8. Wele, gwneuthum dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a'th dâl yn gryf yn erbyn eu talcennau hwynt.

9. Gwneuthum dy dalcen fel adamant, yn galetach na'r gallestr: nac ofna hwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt.

10. Dywedodd hefyd wrthyf, Ha fab dyn, derbyn â'th galon, a chlyw â'th glustiau, fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt.

11. Cerdda hefyd, a dos at y gaethglud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio.

12. Yna yr ysbryd a'm cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o'm hôl, yn dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o'i le.

13. A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt, a sŵn cynnwrf mawr.

14. A'r ysbryd a'm cyfododd, ac a'm cymerodd ymaith, a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf.

15. A mi a ddeuthum i Tel‐abib, at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar, a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd, ie, eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt.

16. Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

17. Mab dyn, mi a'th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o'm genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi.

18. Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di.

19. Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na'i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid.

20. Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o'i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a'i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di.

21. Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o'r cyfiawn, ac na phecho efe; gan fyw y bydd efe byw, am ei rybuddio: a thithau a achubaist dy enaid.

22. Ac yno y bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i'r gwastadedd, ac yno y llefaraf wrthyt.

23. Yna y cyfodais, ac yr euthum i'r gwastadedd: ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno, fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar: a mi a syrthiais ar fy wyneb.

24. Yna yr aeth yr ysbryd ynof, ac a'm gosododd ar fy nhraed, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd wrthyf, Dos, a chae arnat o fewn dy dŷ.

25. Tithau fab dyn, wele, hwy a roddant rwymau arnat, ac a'th rwymant â hwynt, ac na ddos allan yn eu plith.

26. A mi a wnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a thi a wneir yn fud, ac ni byddi iddynt yn geryddwr: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.

27. Ond pan lefarwyf wrthyt, yr agoraf dy safn, a dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: Yr hwn a wrandawo, gwrandawed; a'r hwn a beidio, peidied: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.