Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llefodd hefyd â llef uchel lle y clywais, gan ddywedyd, Gwnewch i swyddogion y ddinas nesáu, a phob un â'i arf dinistr yn ei law.

2. Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth uchaf, yr hwn sydd yn edrych tua'r gogledd, a phob un â'i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo â lliain, a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun; a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor bres.

3. A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y tŷ. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun:

4. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a noda nod ar dalcennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd‐dra oll a wneir yn ei chanol hi.

5. Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais, Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef, a threwch; nac arbeded eich llygad, ac na thosturiwch.

6. Lleddwch yn farw yr henwr, y gŵr ieuanc, a'r forwyn, y plant hefyd, a'r gwragedd; ond na ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo'r nod arno: ac ar fy nghysegr y dechreuwch. Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen, y rhai oedd o flaen y tŷ.

7. Dywedodd wrthynt hefyd, Halogwch y tŷ, a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig: ewch allan. Felly hwy a aethant allan, ac a drawsant yn y ddinas.

8. A bu, a hwy yn lladd, a'm gado innau, i mi syrthio ar fy wyneb, a gweiddi, a dywedyd, O Arglwydd Dduw, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?

9. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Anwiredd tŷ Israel a thŷ Jwda sydd fawr dros ben; a llawn yw y tir o waed, a llanwyd y ddinas o gamwedd: oherwydd dywedant, Gwrthododd yr Arglwydd y ddaear, ac nid yw yr Arglwydd yn gweled.

10. Ac amdanaf fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau.

11. Ac wele, y gŵr wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd y corn du wrth ei glun, yn dwyn gair drachefn, gan ddywedyd, Gwneuthum fel y gorchmynnaist i mi.