Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Llefara, fab dyn, wrth feibion dy bobl, a dywed wrthynt, Pan ddygwyf gleddyf ar wlad, a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o'i chyrrau, a'i roddi yn wyliedydd iddynt:

3. Os gwêl efe gleddyf yn dyfod ar y wlad, ac utganu mewn utgorn, a rhybuddio y bobl;

4. Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o'r cleddyf a'i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun.

5. Efe a glybu lais yr utgorn, ac ni chymerodd rybudd; ei waed fydd arno: ond yr hwn a gymero rybudd, a wared ei enaid.

6. Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni utgana mewn utgorn, a'r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o'r cleddyf a chymryd un ohonynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd.

7. Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y'th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o'm genau, ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthyf fi.

8. Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Ti annuwiol, gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o'i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef.

9. Ond os rhybuddi di yr annuwiol o'i ffordd, i ddychwelyd ohoni; os efe ni ddychwel o'i ffordd, efe fydd farw yn ei anwiredd, a thithau a waredaist dy enaid.

10. Llefara hefyd wrth dŷ Israel, ti fab dyn, Fel hyn gan ddywedyd y dywedwch; Os yw ein hanwireddau a'n pechodau arnom, a ninnau yn dihoeni ynddynt, pa fodd y byddem ni byw?

11. Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o'r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, tŷ Israel, paham y byddwch feirw?

12. Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o'i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho.

13. Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, Gan fyw y caiff fyw; os efe a hydera ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofir; ond am ei anwiredd a wnaeth, amdano y bydd efe marw.

14. A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder;

15. Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw:

16. Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.

17. A meibion dy bobl a ddywedant, Nid yw union ffordd yr Arglwydd: eithr eu ffordd hwynt nid yw union.

18. Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, efe a fydd marw ynddynt.

19. A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei annuwioldeb, a gwneuthur barn a chyfiawnder, yn y rhai hynny y bydd efe byw.

20. Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr Arglwydd. Barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun.

21. Ac yn y degfed mis o'r ddeuddegfed flwyddyn o'n caethgludiad ni, ar y pumed dydd o'r mis, y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi, gan ddywedyd, Trawyd y ddinas.

22. A llaw yr Arglwydd a fuasai arnaf yn yr hwyr, cyn dyfod y dihangydd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod ataf y bore; ie, ymagorodd fy safn, ac ni bûm fud mwyach.

23. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

24. Ha fab dyn, preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru, gan ddywedyd, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.

25. Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr ydych yn bwyta ynghyd â'r gwaed, ac yn dyrchafu eich llygaid at eich gau dduwiau, ac yn tywallt gwaed; ac a feddiennwch chwi y tir?

26. Sefyll yr ydych ar eich cleddyf, gwnaethoch ffieidd‐dra, halogasoch hefyd bob un wraig ei gymydog; ac a feddiennwch chwi y tir?

27. Fel hyn y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Fel mai byw fi, trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch; a'r hwn sydd ar wyneb y maes, i'r bwystfil y rhoddaf ef i'w fwyta; a'r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac mewn ogofeydd, a fyddant feirw o'r haint.

28. Canys gwnaf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith; a balchder ei nerth ef a baid, ac anrheithir mynyddoedd Israel, heb gyniweirydd ynddynt.

29. A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith, am eu holl ffieidd‐dra a wnaethant.

30. Tithau fab dyn, meibion dy bobl sydd yn siarad i'th erbyn wrth y parwydydd, ac o fewn drysau y tai, ac yn dywedyd y naill wrth y llall, pob un wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Deuwch, atolwg, a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd.

31. Deuant hefyd atat fel y daw y bobl, ac eisteddant o'th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond nis gwnânt hwy: canys â'u geneuau y dangosant gariad, a'u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd‐dod.

32. Wele di hefyd iddynt fel cân cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda: canys gwrandawant dy eiriau, ond nis gwnânt hwynt.

33. A phan ddelo hyn, (wele ef yn dyfod,) yna y cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg.