Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2. Gosod dy wyneb, fab dyn, yn erbyn Gog, tir Magog, pen‐tywysog Mesech a Thubal, a phroffwyda yn ei erbyn,

3. A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen‐tywysog Mesech a Thubal.

4. Dychwelaf di hefyd, a rhoddaf fachau yn dy fochgernau, a mi a'th ddygaf allan, a'th holl lu, y meirch a'r marchogion, wedi eu gwisgo i gyd â phob rhyw arfau, yn gynulleidfa fawr â tharianau ac estylch, hwynt oll yn dwyn cleddyfau:

5. Persia, Ethiopia, a Libya, gyda hwynt; hwynt oll yn dwyn tarian a helm:

6. Gomer a'i holl fyddinoedd; tŷ Togarma o ystlysau y gogledd, a'i holl fyddinoedd; a phobl lawer gyda thi.

7. Ymbaratoa, ie, paratoa i ti dy hun, ti a'th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat, a bydd yn gadwraeth iddynt.

8. Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi; yn y blynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o'r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch.

9. Dringi hefyd fel tymestl; deui, a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear, ti a'th holl fyddinoedd, a phobloedd lawer gyda thi.

10. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i'th feddwl, a thi a feddyli feddwl drwg.

11. A thi a ddywedi, Mi a af i fyny i wlad maestrefydd; af at y rhai llonydd, y rhai sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt,

12. I ysbeilio ysbail, i ysglyfaethu ysglyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyfaneddleoedd, y rhai a gyfanheddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasglwyd o'r cenhedloedd, y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud, ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad.

13. Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, â'u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr?

14. Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y dydd hwnnw, pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, oni chei di wybod?

15. A thi a ddeui o'th fangre dy hun o ystlysau y gogledd, ti, a phobl lawer gyda thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirch, yn dyrfa fawr, ac yn llu lluosog.

16. A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel, fel cwmwl i guddio y ddaear: yn y dyddiau diwethaf y bydd hyn; a mi a'th ddygaf yn erbyn fy nhir, fel yr adwaeno y cenhedloedd fi, pan ymsancteiddiwyf ynot ti, Gog, o flaen eu llygaid hwynt.

17. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt, trwy law fy ngweision, proffwydi Israel, y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer, y dygwn di yn eu herbyn hwynt?

18. A bydd yn y dydd hwnnw, yn y dydd y delo Gog yn erbyn tir Israel, medd yr Arglwydd Dduw, i'm llid gyfodi yn fy soriant.

19. Canys yn fy eiddigedd, ac yn angerdd fy nicllonedd y dywedais, Yn ddiau bydd yn y dydd hwnnw ddychryn mawr yn nhir Israel;

20. Fel y cryno pysgod y môr, ac ehediaid y nefoedd, a bwystfilod y maes, a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a phob dyn ar wyneb y ddaear, ger fy mron i; a'r mynyddoedd a ddryllir i lawr, a'r grisiau a syrthiant, a phob mur a syrth i lawr.

21. A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd Dduw: cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd.

22. Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint ac â gwaed: glawiaf hefyd gurlaw, a cherrig cenllysg, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bobloedd lawer sydd gydag ef.

23. Fel hyn yr ymfawrygaf, ac yr ymsancteiddiaf; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer, fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.