Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Ha fab dyn, oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem, Aha, torrwyd hi, pyrth y bobloedd: trodd ataf fi: fo'm llenwir; anrheithiedig yw hi:

3. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i'th erbyn, O Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i'th erbyn, fel y cyfyd y môr ei donnau.

4. A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus, a'i thyrau a ddinistriant: minnau a grafaf ei llwch ohoni, ac a'i gwnaf yn gopa craig.

5. Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr: canys myfi a lefarodd hyn, medd yr Arglwydd Dduw: a hi a fydd yn ysbail i'r cenhedloedd.

6. Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â'r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

7. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dwyn ar Tyrus, o'r gogledd, Nebuchodonosor brenin Babilon, brenin brenhinoedd, â meirch ac â cherbydau, ac â marchogion, a thorfoedd, a phobl lawer.

8. Dy ferched a ladd efe yn y maes â'r cleddyf; ac a esyd wrthglawdd i'th erbyn, ac a fwrw glawdd i'th erbyn, ac a gyfyd darian i'th erbyn.

9. Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a'th dyrau a fwrw efe i lawr â'i fwyeill.

10. Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a'th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a'r olwynion, a'r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog.

11. A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll: dy bobl a ladd efe â'r cleddyf, a'th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i'r llawr.

12. A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddinistriant dy geyrydd, a'th dai dymunol a dynnant i lawr: a'th gerrig, a'th goed, a'th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd.

13. A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio; ac ni chlywir mwy lais dy delynau.

14. A gwnaf di yn gopa craig: taenfa rhwydau fyddi: ni'th adeiledir mwy: canys myfi yr Arglwydd a'i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.

15. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Tyrus: Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp, pan waeddo yr archolledig, pan ladder lladdfa yn dy ganol?

16. Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o'u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt.

17. Codant hefyd alarnad amdanat, a dywedant wrthyt, Pa fodd y'th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a'i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi?

18. Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith.

19. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y'th guddio dyfroedd lawer;

20. A'th ddisgyn ohonof gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, at y bobl gynt, a'th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, fel na'th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw;

21. Gwnaf di yn ddychryn, ac ni byddi: er dy geisio, ni'th geir mwy, medd yr Arglwydd Dduw.