Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Teyrngarwch Matathias

1. Yn y dyddiau hynny, symudodd Matathias fab Ioan, fab Simeon, offeiriad o deulu Joarib, o Jerwsalem ac ymsefydlu yn Modin.

2. Yr oedd ganddo bump o feibion: Ioan a elwid Gadi,

3. Simon a elwid Thasi,

4. Jwdas a elwid Macabeus,

5. Eleasar a elwid Abaran, a Jonathan a elwid Apffws.

6. Pan welodd Matathias y pethau cableddus oedd yn digwydd yn Jwda ac yn Jerwsalem,

7. dywedodd:“Gwae fi! Pam y'm ganwyd i welddinistr fy mhobl a dinistr y ddinas sanctaidd,ac i drigo yno pan roddwyd hi yn nwylo gelynion,a'i chysegr yn nwylo estroniaid?

8. Aeth ei theml fel rhywun a ddianrhydeddwyd,

9. a dygwyd ymaith ei llestri gogoneddus yn ysbail;lladdwyd ei babanod yn ei heolydd,a'i gwŷr ifainc gan gleddyf y gelyn.

10. Pa genedl na feddiannodd ei phalasau hi,ac na wnaeth hi'n ysbail?

11. Anrheithiwyd ei holl harddwch hi,ac o fod yn rhydd, aeth yn gaethferch.

12. Ac wele, ein cysegr a'n ceindera'n gogoniant wedi eu troi'n ddiffeithwch;y Cenhedloedd a'u halogodd.

13. Pa fudd yw i ni bellach ddal yn fyw?”

14. A rhwygodd Matathias a'i feibion eu dillad; gwisgasant sachliain a galaru'n chwerw.

15. Yna daeth swyddogion y brenin, a oedd yn gorfodi'r bobl i gefnu ar eu crefydd, i dref Modin i beri iddynt aberthu.

16. Aeth llawer o bobl Israel atynt; a daeth Matathias a'i feibion ynghyd hefyd.

17. Dywedodd swyddogion y brenin wrth Matathias: “Yr wyt ti'n arweinydd ac yn ddyn o fri a dylanwad yn y dref hon, a'th feibion a'th frodyr yn gefn iti.

18. Yn awr, tyrd dithau yn gyntaf, ac ufuddha i orchymyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl Genhedloedd, a thrigolion Jwda, a'r rhai a adawyd ar ôl yn Jerwsalem. Yna cei di a'th feibion eich cyfrif yn Gyfeillion y Brenin; cei di a'th feibion eich anrhydeddu ag arian ac aur a llawer o anrhegion.”

19. Ond atebodd Matathias â llais uchel: “Er bod yr holl genhedloedd sydd dan lywodraeth y brenin yn gwrando arno, ac yn cefnu bob un ar grefydd eu hynafiaid, ac yn cytuno â'i orchmynion,

20. eto yr wyf fi a'm brodyr am ddilyn llwybr cyfamod ein hynafiaid.

21. Na ato Duw i ni gefnu ar y gyfraith a'i hordeiniadau.

22. Nid ydym ni am ufuddhau i orchmynion y brenin, trwy wyro oddi wrth ein crefydd i'r dde nac i'r chwith.”

23. Cyn gynted ag y peidiodd â llefaru'r geiriau hyn, daeth rhyw Iddew ymlaen yng ngolwg pawb, i aberthu ar yr allor yn Modin, yn ôl gorchymyn y brenin.

24. Pan welodd Matathias ef, fe'i llanwyd â sêl digllon a chynhyrfwyd ef drwyddo. Wedi ei danio gan ddicter cyfiawn fe redodd at y dyn a'i ladd ar yr allor,

25. a'r un pryd lladdodd swyddog y brenin a oedd yn gorfodi'r aberthu, a dymchwelodd yr allor.

26. Felly dangosodd ei sêl dros y gyfraith, fel y gwnaeth Phinees pan laddodd Sambri fab Salom.

27. Yna gwaeddodd Matathias yn y dref â llais uchel: “Pob un sy'n selog drosy gyfraith ac sydd am gadw'r cyfamod, deued ar fy ôl i.”

28. A ffodd ef a'i feibion i'r mynyddoedd, gan adael eu meddiannau yn y dref.

Gwrthryfel Matathias

29. Yna aeth llawer oedd yn ceisio cyfiawnder a barn i lawr i'r anialwch i aros yno, gyda'u meibion a'u gwragedd a'u hanifeiliaid,

30. oherwydd bod trallodion wedi gwasgu'n galed arnynt.

31. Ac adroddwyd wrth swyddogion y brenin a'r lluoedd oedd yn Jerwsalem, dinas Dafydd, bod pobl a dorrodd orchymyn y brenin wedi mynd i lawr i'r llochesau yn yr anialwch.

32. Rhuthrodd llawer ohonynt ar eu hôl a'u goddiweddyd, a gwersyllu gyferbyn â hwy, a pharatoi cyrch yn eu herbyn ar y Saboth.

33. A dywedasant wrthynt: “Dyna ddigon! Dewch allan ac ufuddhewch i orchymyn y brenin, a chewch fyw.”

34. Ond atebasant: “Ni ddown ni allan, ac ni chyflawnwn orchymyn y brenin i halogi'r Saboth.”

35. Yna prysurodd y gelyn i ymosod arnynt.

36. Ond ni wnaethant hwy ddim mewn ymateb iddynt, na lluchio carreg atynt, na chau'r llochesau rhagddynt.

37. Dywedasant: “Gadewch i ni i gyd farw â chydwybod lân; y mae nef a daear yn tystiolaethu drosom mai'n anghyfiawn yr ydych yn ein lladd.”

38. A gwnaed cyrch ar yr Israeliaid ar y Saboth, a buont farw, ynghyd â'u gwragedd a'u plant a'u hanifeiliaid, hyd at fil o eneidiau.

39. Pan glywodd Matathias a'i gyfeillion am hyn, mawr fu eu galar drostynt.

40. A dywedodd pob un wrth ei gilydd: “Os gwnawn ni i gyd fel y gwnaeth ein brodyr, a gwrthod ymladd yn erbyn y Cenhedloedd dros ein bywydau a'n hordeiniadau, yna yn fuan byddant yn ein dileu oddi ar y ddaear.”

41. Felly, y diwrnod hwnnw, gwnaethant y penderfyniad hwn: “Os daw unrhyw un i ymosod arnom ar y Saboth, gadewch i ni ryfela yn ei erbyn; nid ydym ni am farw i gyd, fel y bu farw ein brodyr yn y llochesau.”

42. A'r pryd hwnnw daeth cwmni o Hasideaid i ymuno â hwy, gwŷr cadarn o Israeliaid, a phob un ohonynt wedi gwirfoddoli i amddiffyn y gyfraith.

43. Daeth pawb oedd wedi ffoi rhag yr erledigaethau i ymuno â hwy, a buont yn atgyfnerthiad iddynt.

44. Ffurfiasant fyddin, a tharo i lawr bechaduriaid yn eu dicter, a rhai digyfraith yn eu llid; yna ffodd y rhai oedd ar ôl at y Cenhedloedd, er mwyn bod yn ddiogel.

45. Aeth Matathias a'i gyfeillion oddi amgylch, gan dynnu'r allorau i lawr,

46. a gorfodi enwaediad ar y plant dienwaededig a gawsant o fewn ffiniau Israel.

47. Erlidiasant y rhai ffroenuchel, a llwyddodd y gwaith hwnnw yn eu dwylo.

48. Felly gwaredasant y gyfraith o law y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, ac ni roesant gyfle i'r pechadur gael y trechaf.

Marw Matathias

49. Pan nesaodd y dyddiau i Matathias farw, dywedodd wrth ei feibion: “Yn awr aeth balchder a gwaradwydd yn gadarn; amser dinistr a dicter chwyrn yw hwn.

50. Felly, fy mhlant, byddwch selog dros y gyfraith a rhowch eich bywydau dros gyfamod ein hynafiaid.

51. Cofiwch weithredoedd ein hynafiaid, a gyflawnwyd ganddynt yn eu cenedlaethau, a derbyniwch ogoniant mawr a chlod tragwyddol.

52. Oni chafwyd Abraham yn ffyddlon dan ei brawf, ac oni chyfrifwyd hynny yn gyfiawnder iddo?

53. Cadwodd Joseff y gorchymyn yn amser ei gyfyngder, a daeth yn arglwydd ar yr Aifft.

54. Yn ei sêl ysol derbyniodd Phinees ein cyndad gyfamod offeiriadaeth dragwyddol.

55. Wrth gyflawni'r gorchymyn, daeth Josua yn farnwr yn Israel.

56. Cafodd Caleb, am iddo ddwyn tystiolaeth yn y gynulleidfa, y tir yn etifeddiaeth.

57. Etifeddodd Dafydd, ar gyfrif ei drugaredd, orsedd teyrnas dragwyddol.

58. Oherwydd ei fawr sêl dros y gyfraith cymerwyd Elias i fyny i'r nef.

59. Oherwydd eu ffydd, achubwyd Ananias, Asarias a Misael o'r tân.

60. Gwaredwyd Daniel, ar gyfrif ei unplygrwydd, o safn y llewod.

61. Ac felly ystyriwch, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, nad yw neb sy'n ymddiried ynddo ef yn diffygio.

62. Peidiwch ag ofni geiriau dyn pechadurus, oherwydd fe dry ei ogoniant yn dom ac yn bryfed.

63. Heddiw fe'i dyrchefir, ond yfory ni bydd sôn amdano, am iddo ddychwelyd i'r llwch, a'i gynlluniau wedi darfod.

64. Fy mhlant, ymwrolwch a byddwch gadarn dros y gyfraith, oherwydd trwyddi hi y'ch gogoneddir.

65. A dyma Simon eich brawd; gwn ei fod yn ŵr o gyngor. Gwrandewch arno ef bob amser, a bydd ef yn dad i chwi.

66. A Jwdas Macabeus yntau, a fu'n ŵr cadarn o'i ieuenctid, bydd ef yn gapten ar eich byddin ac yn arwain y frwydr yn erbyn y bobloedd.

67. A chwithau, casglwch o'ch amgylch bawb sy'n cadw'r gyfraith, a mynnwch ddial am gamwri eich pobl.

68. Talwch yn ôl i'r Cenhedloedd hyd yr eithaf, ac ufuddhewch i ordinhad y gyfraith.”

69. Yna bendithiodd Matathias hwy, a chasglwyd ef at ei hynafiaid.

70. Bu farw yn y flwyddyn 146, a chladdwyd ef ym medd ei hynafiaid yn Modin, a galarodd Israel gyfan yn ddirfawr amdano.