Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna cymerodd Gorgias bum mil o wŷr traed a mil o wŷr meirch dethol, ac ymadawodd y fyddin liw nos

2. fel y gallai ymosod ar fyddin yr Iddewon a'u taro'n ddisymwth. Yr oedd ganddo ddynion o'r gaer i ddangos y ffordd iddo.

3. Ond clywodd Jwdas am hyn ac ymadawodd ef a'i wŷr arfog i daro llu'r brenin yn Emaus

4. tra oedd ei finteioedd eto ar wasgar allan o'u gwersyll.

5. Pan aeth Gorgias i mewn i wersyll Jwdas liw nos ni chafodd neb yno; aeth i chwilio amdanynt yn y mynyddoedd, gan ddweud wrtho'i hun, “Y mae'r gwŷr hyn ar ffo oddi wrthym.”

6. Gyda'r wawr gwelwyd Jwdas yn y gwastadedd gyda thair mil o wŷr; ond nid oedd ganddynt gymaint o arfwisgoedd a chleddyfau ag y dymunent.

7. Gwelsant wersyll y Cenhedloedd, yn gadarn yn ei gloddiau amddiffynnol, gyda gwŷr meirch yn gylch amdano, a'r rheini'n rhyfelwyr hyddysg.

8. Dywedodd Jwdas wrth y gwŷr oedd gydag ef, “Peidiwch ag ofni eu rhifedi nac arswydo rhag eu cyrch.

9. Cofiwch pa fodd yr achubwyd ein hynafiaid wrth y Môr Coch, pan oedd Pharo a'i lu yn eu hymlid.

10. Yn awr, felly, gadewch inni godi ein llef i'r nef, i weld a gymer Duw ein plaid a chofio'r cyfamod â'n hynafiaid, a dryllio'r fyddin hon o'n blaen heddiw.

11. Caiff yr holl Genhedloedd wybod wedyn fod yna un sy'n gwaredu ac yn achub Israel.”

12. Pan edrychodd yr estroniaid, a'u gweld yn dod yn eu herbyn,

13. aethant allan o'r gwersyll i'r frwydr. Canodd gwŷr Jwdas eu hutgyrn

14. a mynd i'r afael â hwy. Drylliwyd y Cenhedloedd a ffoesant i'r gwastadedd,

15. a syrthiodd y rhengoedd ôl i gyd wedi eu trywanu â'r cleddyf. Ymlidiasant hwy hyd at Gasara, a hyd at wastadeddau Idwmea, Asotus a Jamnia, a syrthiodd tua thair mil o'u gwŷr.

16. Dychwelodd Jwdas a'i lu o'u hymlid,

17. a dywedodd wrth y bobl, “Peidiwch â chwennych ysbail, oherwydd y mae rhagor o ryfela o'n blaen.

18. Y mae Gorgias a'i lu yn y mynydd gerllaw. Yn hytrach, dyma'r amser i wynebu ein gelynion ac ymladd; wedi hynny cewch gymryd yr ysbail yn hyderus.”

19. A Jwdas ar fin gorffen y geiriau hyn, gwelwyd mintai yn edrych allan o gyfeiriad y mynydd.

20. Gwelsant fod eu byddin ar ffo, a bod eu gwersyll ar dân, oherwydd yr oedd y mwg a welid yn dangos beth oedd wedi digwydd.

21. O ganfod hyn dychrynasant yn ddirfawr, a phan welsant hefyd fyddin Jwdas yn y gwastadedd yn barod i'r frwydr,

22. ffoesant oll i dir y Philistiaid.

23. Yna dychwelodd Jwdas i ysbeilio'r gwersyll, a chymerasant lawer o aur ac arian a sidan glas a phorffor o liw'r môr, a golud mawr.

24. Dychwelsant dan ganu mawl a bendithio'r nef, oherwydd ei fod yn dda a'i drugaredd dros byth.

25. A'r dydd hwnnw bu ymwared mawr i Israel.

Gorchfygu Lysias

26. A dyma'r rheini o'r estroniaid oedd wedi dianc yn mynd a mynegi i Lysias y cwbl oedd wedi digwydd.

27. Pan glywodd yntau, bwriwyd ef i ddryswch a digalondid, am nad oedd Israel wedi dioddef yn unol â'i fwriad ef, ac am iddo fethu dwyn i ben yr hyn yr oedd y brenin wedi ei orchymyn iddo.

28. Ond yn y flwyddyn ganlynol casglodd ynghyd drigain mil o wŷr traed dethol a phum mil o wŷr meirch, i barhau'r rhyfel yn erbyn yr Iddewon.

29. Daethant hyd at Idwmea a gwersyllu yn Bethswra, ac aeth Jwdas i'w cyfarfod â deng mil o wŷr.

30. Pan welodd y fyddin gref gweddïodd fel hyn: “Bendigedig wyt ti, O Waredwr Israel, yr hwn a ddrylliodd gyrch y cawr nerthol trwy law Dafydd dy was, ac a draddododd fyddin y Philistiaid i ddwylo Jonathan fab Saul a'i gludydd arfau.

31. Yn yr un modd cau'r fyddin hon yn llaw dy bobl Israel, a bydded arnynt gywilydd o'u llu arfog ac o'u gwŷr meirch.

32. Gwna hwy'n llwfr a difa eu haerllugrwydd trahaus; pâr iddynt grynu yn eu dinistr.

33. Bwrw hwy i lawr â chleddyf y rhai sy'n dy garu, a boed i bawb sy'n adnabod dy enw dy glodfori ag emynau.”

34. Aethant i'r afael â'i gilydd, a syrthiodd tua phum mil o wŷr byddin Lysias yn y brwydro clòs.

35. Pan welodd Lysias ei lu ar ffo, a dewrder milwyr Jwdas, ac mor barod oeddent i fyw neu i farw'n anrhydeddus, aeth ymaith i Antiochia, a chasglu ynghyd filwyr cyflog, er mwyn ymosod ar Jwdea â byddin gryfach fyth.

Puro'r Cysegr

36. Yna dywedodd Jwdas a'i frodyr, “Dyna'n gelynion wedi eu dryllio; awn i fyny i lanhau'r cysegr a'i ailgysegru.”

37. Felly ymgynullodd yr holl fyddin ac aethant i fyny i Fynydd Seion.

38. Gwelsant y cysegr wedi ei ddifrodi, yr allor wedi ei halogi, y pyrth wedi eu llosgi, a llwyni'n tyfu yn y cynteddau fel mewn cwm coediog neu ar ochr mynydd. Yr oedd ystafelloedd yr offeiriaid hefyd yn adfeilion.

39. Rhwygasant eu dillad, gan alaru'n ddwys, a thaenu lludw ar eu pennau;

40. ac yn sŵn utgyrn y defodau syrthiasant ar eu hwynebau ar y ddaear a chodi eu llef i'r nef.

41. Yna gosododd Jwdas wŷr i ymladd yn erbyn y rhai oedd yn y gaer, tra byddai ef yn glanhau'r cysegr.

42. Dewisodd offeiriaid dilychwin, ymroddedig i'r gyfraith,

43. i lanhau'r cysegr a symud y cerrig a'i halogai i le aflan.

44. Wedi ymgynghori beth i'w wneud ag allor y poethoffrwm a oedd wedi ei difwyno,

45. penderfynasant yn gwbl gywir ei thynnu i lawr rhag iddi ddwyn gwaradwydd arnynt, oherwydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi. Felly tynasant yr allor i lawr,

46. a chasglu'r cerrig i'w cadw mewn man cyfleus yng nghyffiniau bryn y deml, hyd oni chyfodai proffwyd i ddyfarnu arnynt.

47. Yna cymerasant gerrig heb eu naddu, yn unol â gofynion y gyfraith, ac adeiladu allor newydd ar batrwm y gyntaf.

48. Adeiladasant y cysegr hefyd, o'r tu mewn a'r tu allan, a chysegru'r cynteddau.

49. Gwnaethant lestri sanctaidd newydd, a dwyn y ganhwyllbren ac allor yr arogldarth a'r bwrdd i mewn i'r deml.

50. Yna arogldarthasant ar yr allor a chynnau'r canhwyllau oedd ar y ganhwyllbren i oleuo yn y deml.

51. Gosodasant y torthau cysegredig ar y bwrdd, a lledu'r llenni. Felly cwblhasant yr holl orchwylion a oedd mewn llaw.

52. Ar y pumed dydd ar hugain o'r nawfed mis, sef y mis Cislef, yn y flwyddyn 148 codasant yn y bore bach

53. ac offrymu aberth yn unol â gofynion y gyfraith ar yr allor newydd yr oeddent wedi ei hadeiladu i'r poethoffrymau.

54. Ar yr union adeg a'r union ddydd yr oedd y Cenhedloedd wedi ei halogi hi, fe ailgysegrwyd yr allor â chaniadau, â thelynau a phibau a symbalau.

55. Syrthiodd yr holl bobl ar eu hwynebau gan addoli a bendithio'r nef, a barodd lwyddiant iddynt.

56. Buont yn dathlu ailgysegru'r allor am wyth diwrnod, ac yn offrymu poethoffrymau mewn llawenydd, ac yn aberthu aberth gwaredigaeth a mawl.

57. Addurnasant dalcen y deml â thorchau euraid ac â tharianau, ac adnewyddu'r pyrth ac ystafelloedd yr offeiriaid a rhoi drysau arnynt.

58. Bu llawenydd mawr iawn ymhlith y bobl, a dilëwyd y gwaradwydd a ddygasai'r Cenhedloedd arnynt.

59. Ordeiniodd Jwdas a'i frodyr a holl gynulleidfa Israel fod dathlu dyddiau ailgysegru'r allor yn eu hamserau priod bob blwyddyn am wyth diwrnod â llawenydd a gorfoledd, gan ddechrau ar y pumed dydd ar hugain o'r mis Cislef.

60. Yn yr amser hwnnw amgylchynasant Fynydd Seion â muriau uchel ac â thyrau cadarn, rhag i'r Cenhedloedd ddod a'u sathru i lawr fel yr oeddent wedi gwneud o'r blaen.

61. Yna gosododd Jwdas lu arfog yno i'w warchod, a chadarnhaodd Bethswra fel y byddai gan y bobl gaer gadarn gyferbyn ag Idwmea.