Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Rhyfela yn erbyn y Cenhedloedd Oddi Amgylch

1. Pan glywodd y Cenhedloedd oddi amgylch fod yr allor wedi ei hailgodi a'r deml wedi ei hailgysegru i fod fel yr oeddent o'r blaen, aethant yn gynddeiriog

2. a phenderfynu difodi pawb o hil Jacob a oedd yn eu plith. A dyna ddechrau lladd a dinistrio ymhlith y bobl.

3. Ar hyn aeth Jwdas i ryfel yn erbyn meibion Esau yn Idwmea, gan ymosod ar Acrabattene, oherwydd yr oeddent yn dal i warchae ar Israel. Trawodd hwy ag ergyd drom a'u darostwng a'u hysbeilio.

4. Cofiodd hefyd ddrygioni meibion Baian, iddynt fod yn rhwyd ac yn fagl i'r bobl wrth ymosod o'u cuddfannau arnynt ar y priffyrdd.

5. Wedi eu cau i mewn yn eu tyrau, gwersyllodd yn eu herbyn, a chan ymdynghedu i'w llwyr ddifetha llosgodd eu tyrau â thân ynghyd â phawb oedd o'u mewn.

6. Aeth drosodd hefyd at feibion Ammon a'u cael yn fintai gref ac yn bobl niferus, a Timotheus yn ben arnynt.

7. Ymladdodd yn eu herbyn frwydrau lawer; drylliodd hwy o'i flaen a'u difrodi.

8. Meddiannodd Jaser hefyd a'i phentrefi; yna dychwelodd i Jwdea.

9. A dyma'r Cenhedloedd a oedd yn Gilead yn ymgasglu yn erbyn yr Israeliaid a drigai yn eu tiroedd gyda'r bwriad o'u dinistrio. Ffoesant hwythau i gaer Dathema,

10. ac anfon y llythyr hwn at Jwdas a'i frodyr: “Y mae'r Cenhedloedd sydd o'n cwmpas wedi ymgasglu i'n dinistrio ni.

11. Y maent yn paratoi i ddod a meddiannu'r gaer y ffoesom iddi, a Timotheus sy'n arwain eu llu.

12. Tyrd gan hynny yn awr i'n gwaredu ni o'u dwylo, oherwydd y mae llawer ohonom wedi syrthio,

13. a'n holl gyd-Iddewon yn nhiroedd Twbias wedi eu lladd, eu gwragedd a'u plant a'u heiddo wedi eu cymryd yn ysbail ganddynt, a thua mil o wŷr wedi eu lladd yno.”

14. Yr oeddent wrthi'n darllen y llythyr hwn pan ddaeth negeswyr eraill o Galilea, a'u dillad wedi eu rhwygo, gan ddwyn y neges hon:

15. “Y mae gwŷr o Ptolemais a Tyrus a Sidon,” meddent, “a holl Galilea'r Cenhedloedd, wedi ymgasglu yn ein herbyn i'n difa ni'n llwyr.”

16. Pan glywodd Jwdas a'r bobl y geiriau hyn, galwyd cynulliad llawn i ystyried beth a allent ei wneud dros eu cydwladwyr a oedd mewn gorthrymder, dan bwys ymosodiad eu gelynion.

17. Yna dywedodd Jwdas wrth Simon ei frawd, “Dewis dy wŷr a dos, achub dy frodyr sydd yn Galilea; mi af fi a Jonathan fy mrawd i Gilead.”

18. Ond gadawodd ef Joseff fab Sacharias ac Asarias, llywodraethwr y bobl, ynghyd â gweddill y fyddin yn Jwdea i'w gwarchod hi;

19. a gorchmynnodd iddynt fel hyn: “Gwyliwch dros y bobl hyn, ond peidiwch â mynd i ryfel yn erbyn y Cenhedloedd hyd nes i ni ddychwelyd.”

20. Yna dosbarthwyd tair mil o wŷr i Simon i fynd i Galilea, ac wyth mil i Jwdas i fynd i Gilead.

21. Aeth Simon i Galilea ac ymladd brwydrau lawer yn erbyn y Cenhedloedd, a drylliwyd y Cenhedloedd o'i flaen.

22. Erlidiodd hwy hyd at borth Ptolemais, a syrthiodd ynghylch tair mil o wŷr y Cenhedloedd, ac fe'u hysbeiliwyd.

23. Yna cymerodd Iddewon Galilea ac Arbatta, ynghyd â'u gwragedd a'u plant a'u holl eiddo, a'u dwyn yn ôl i Jwdea â llawenydd mawr.

24. Croesodd Jwdas Macabeus a Jonathan ei frawd yr Iorddonen a mynd ar daith dridiau i'r anialwch.

25. Cyfarfuasant â'r Nabateaid, a ddaeth atynt yn heddychlon gan fynegi iddynt y cyfan a oedd wedi digwydd i'w cyd-genedl yn Gilead:

26. bod llawer ohonynt yn garcharorion yn Bosra a Bosor, yn Alema a Chasffo, Maced a Carnaim—trefi mawr caerog yw'r rhain i gyd—

27. a bod rhai'n garcharorion yn y gweddill o drefi Gilead; a bod y gelyn yn ymbaratoi i ymosod ar y ceyrydd drannoeth a'u meddiannu, a dinistrio mewn un diwrnod yr holl Iddewon oedd ynddynt.

28. Ar hyn troes Jwdas a'i fyddin yn ôl ar frys ar hyd ffordd yr anialwch tua Bosra; meddiannodd y dref, ac wedi lladd pob gwryw â min y cledd ysbeiliodd eu holl eiddo, a'i llosgi hi â thân.

29. Ciliodd oddi yno liw nos a dod hyd at gaer Dathema

30. Ar doriad gwawr edrychasant a gweld llu mawr na ellid ei rifo yn dwyn ysgolion a pheiriannau rhyfel i feddiannu'r gaer; ac yr oeddent ar ymosod ar y rhai o'i mewn.

31. Gwelodd Jwdas fod y frwydr wedi dechrau, a bod cri'r dref yn esgyn i'r nef â sain utgyrn a bloedd uchel.

32. Dywedodd wrth wŷr ei fyddin, “Ymladdwch heddiw dros ein brodyr.”

33. Yna cychwynasant yn dair mintai i ymosod arnynt o'r tu ôl. Seiniasant yr utgyrn a chodi llef mewn gweddi.

34. Pan wybu byddin Timotheus mai Macabeus ydoedd, ffoesant rhagddo; trawodd hwy ag ergyd drom, a syrthiodd y dydd hwnnw ynghylch wyth mil o'u gwŷr.

35. Troes wedyn o'r neilltu tuag Alema. Ymladdodd yn ei herbyn a'i meddiannu, a lladd pob gwryw ynddi. Ysbeiliodd hi a'i llosgi â thân.

36. Teithiodd oddi yno a meddiannu Chasffo, Maced, Bosor, a gweddill trefi Gilead.

37. Wedi'r digwyddiadau hyn casglodd Timotheus fyddin arall a gwersyllu gyferbyn â Raffon, yr ochr draw i'r nant.

38. Anfonodd Jwdas rai i ysbïo'r gwersyll, a daethant â'r adroddiad hwn iddo: “Y mae'r holl Genhedloedd o'n cwmpas wedi ymgynnull ato, yn llu mawr iawn.

39. Y maent hefyd wedi cyflogi Arabiaid i'w cynorthwyo, ac y maent yn gwersyllu yr ochr draw i'r nant, yn barod i ddod i'th erbyn i ryfel.” Yna aeth Jwdas allan i'w cyfarfod.

40. Wrth i Jwdas a'i fyddin nesáu at ddyfroedd y nant, meddai Timotheus wrth gapteiniaid ei lu, “Os daw ef drosodd yn gyntaf atom ni, ni fyddwn yn gallu ei wrthsefyll, oherwydd bydd ef yn drech o lawer na ni.

41. Ond os bydd yn ofnus a gwersyllu yr ochr draw i'r afon, fe awn ni drosodd ato ef a'i drechu.”

42. Pan nesaodd Jwdas at ddyfroedd y nant, gosododd swyddogion y fyddin ar lan y nant a gorchymyn iddynt fel hyn: “Peidiwch â chaniatáu i neb wersyllu, ond eled pawb yn ei flaen i'r gad.”

43. Yna achubodd y blaen i groesi atynt hwy, a'r holl fyddin ar ei ôl. Drylliwyd yr holl Genhedloedd o'i flaen; taflasant ymaith eu harfau a ffoi i gysegrle Carnaim.

44. Yna meddiannodd y dref a llosgi'r cysegrle â thân, ynghyd â phawb a oedd ynddo. Felly dymchwelwyd Carnaim; ni allai mwyach wrthsefyll Jwdas.

45. Casglodd Jwdas ynghyd bawb o wŷr Israel a oedd yn Gilead, o'r lleiaf i'r mwyaf, gyda'u gwragedd a'u plant a'u heiddo, tyrfa luosog iawn, i ddod â hwy i wlad Jwda.

46. Daethant hyd at Effron, tref gaerog fawr iawn ar y briffordd. Nid oedd modd mynd heibio iddi i'r dde nac i'r chwith; rhaid oedd teithio drwy ei chanol.

47. Ond caeodd gwŷr y dref hwy allan a llenwi'r pyrth â cherrig.

48. Anfonodd Jwdas atynt neges heddychlon: “Yr ydym ar fynd drwy eich gwlad er mwyn cyrraedd ein gwlad ein hunain, ac ni wna neb ddrwg i chwi. Cerdded trwodd yn unig y byddwn.” Ond ni fynnent agor iddo.

49. Yna gorchmynnodd Jwdas gyhoeddi yn y fyddin fod pob un i wersyllu yn y man lle'r oedd.

50. Gwersyllodd gwŷr y llu, ac ymladdodd ef yn erbyn y dref y diwrnod hwnnw ar ei hyd, a'r nos hefyd, nes i'r dref ildio i'w ddwylo.

51. Lladdodd bob gwryw â min y cledd, a dymchwelyd y dref hyd at ei sylfeini, a'i hysbeilio. Yna tramwyodd drwyddi ar draws cyrff rhai a laddwyd.

52. Croesasant yr Iorddonen i mewn i'r gwastadedd eang gyferbyn â Bethsan,

53. a Jwdas yn cyrchu'r rhai oedd yn dilyn o hirbell ac yn calonogi'r bobl yr holl ffordd nes iddo ddod i wlad Jwda.

54. Aethant i fyny i Fynydd Seion â llawenydd a gorfoledd, ac offrymu poethoffrymau, am iddynt ddychwelyd mewn heddwch heb golli'r un o'u plith.

55. Yn ystod y dyddiau pan oedd Jwdas, ynghyd â Jonathan yng ngwlad Gilead, a Simon ei frawd yng Ngalilea gyferbyn â Ptolemais,

56. clywodd Joseff fab Sacharias ac Asarias, capteiniaid y llu arfog, am eu gorchestion arwrol mewn rhyfel.

57. Yna dywedasant, “Gadewch i ninnau hefyd wneud enw i ni'n hunain, a mynd i ryfela yn erbyn y Cenhedloedd o'n cwmpas.”

58. Rhoesant orchymyn i aelodau'r llu arfog a oedd gyda hwy, ac aethant i ymosod ar Jamnia.

59. Daeth Gorgias a'i wŷr allan o'r dref i'w hwynebu mewn brwydr.

60. Gyrrwyd Joseff ac Asarias ar ffo a'u hymlid hyd at gyrion Jwdea, a syrthiodd y dydd hwnnw ynghylch dwy fil o bobl Israel.

61. Daeth trychineb mawr i ran y bobl, am iddynt, yn eu bwriad i wneud gwrhydri, beidio â gwrando ar Jwdas a'i frodyr.

62. Nid oeddent hwy o linach y gwŷr hynny yr oedd gwaredu Israel wedi ei ymddiried i'w dwylo.

63. Mawr oedd clod y gŵr Jwdas a'i frodyr drwy holl Israel a thrwy'r holl Genhedloedd, ple bynnag y clywid eu henw.

64. Byddai pobl yn tyrru atynt a'u hanrhydeddu.

65. Yna aeth Jwdas a'i frodyr allan a dechrau rhyfela yn erbyn meibion Esau yn y diriogaeth tua'r de. Trawodd Hebron a'i phentrefi, a difrodi ei cheyrydd a llosgi y tyrau o'i hamgylch.

66. Ymadawodd wedyn i fynd i wlad y Philistiaid, a thramwyodd drwy Marisa.

67. Y dydd hwnnw syrthiodd nifer o offeiriaid mewn brwydr wrth iddynt yn eu byrbwylltra fentro i'r gad gan fwriadu gwneud gwrhydri.

68. Ond troes Jwdas o'r neilltu i Asotus yng ngwlad y Philistiaid; difrododd eu hallorau, a llosgi delwau cerfiedig eu duwiau â thân, ac ysbeilio'r trefi; yna dychwelodd i wlad Jwda.