Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Buddugoliaethau Cyntaf Jwdas

1. Yna cododd ei fab Jwdas, a elwid Macabeus, yn lle ei dad.

2. Rhoddodd ei holl frodyr gymorth iddo, ac felly hefyd bawb a fu'n ganlynwyr i'w dad, a daliasant ati â llawenydd i ymladd y frwydr dros Israel.

3. Helaethodd ogoniant ei bobl.Gwisgodd ddwyfronneg fel cawr,ac ymwregysu â'i arfau rhyfel.Cynlluniodd frwydrau,gan amddiffyn ei fyddin â'i gleddyf.

4. Yr oedd fel llew yn ei gampau,fel cenau llew yn rhuo am ysglyfaeth.

5. Chwiliodd am y rhai digyfraith a'u herlid,a difa'r rhai a darfai ar ei bobl.

6. Ciliodd y digyfraith rhagddo mewn braw,a thrallodwyd holl weithredwyr drygioni.Ffynnodd achos gwaredigaeth dan ei law ef.

7. Parodd ddicter i frenhinoedd lawerond rhoes lawenydd i Jacob drwy ei weithredoedd.Bendigedig fydd ei goffadwriaeth am byth.

8. Tramwyodd drwy drefi Jwdagan lwyr ddinistrio'r annuwiol o'r tir.Trodd ymaith y digofaint oddi wrth Israel.

9. Daeth yn enwog hyd at derfynau'r ddaear,a chasglodd ynghyd y rhai oedd ar ddarfod amdanynt.

10. Casglodd Apolonius rai o blith y Cenhedloedd, a byddin gref o Samaria, i ryfela yn erbyn Israel. Pan glywodd Jwdas am hyn, aeth allan i'w gyfarfod.

11. Trawodd ef a'i ladd; archollwyd a lladdwyd llawer o filwyr y gelyn, a ffodd y gweddill.

12. Cymerwyd eu hysbail hwy, a Jwdas yn cymryd cleddyf Apolonius; â hwnnw yr ymladdodd wedyn holl ddyddiau ei fywyd.

13. Pan glywodd Seron, capten byddin Syria, fod Jwdas wedi casglu ato lu mawr, a chwmni o ffyddloniaid ac o rai a arferai fynd i ryfel,

14. dywedodd, “Gwnaf enw i mi fy hun, ac enillaf ogoniant yn y deyrnas trwy ryfela yn erbyn Jwdas a'i ganlynwyr, sy'n diystyru gorchymyn y brenin.”

15. Aeth i fyny â chwmni cryf o ddynion annuwiol gydag ef yn gymorth, i ddial ar blant Israel.

16. Nesaodd at fwlch Beth-horon, lle daeth Jwdas i'w gyfarfod gyda chwmni bychan.

17. Pan welodd ei ganlynwyr y fyddin yn dod i'w cyfarfod, dywedasant wrth Jwdas, “Sut y gallwn ni, a ninnau'n gwmni bychan, frwydro yn erbyn y fath dyrfa gref â hon? Ac at hynny, yr ydym yn diffygio, gan na chawsom fwyd heddiw.”

18. Atebodd Jwdas, “Y mae'n ddigon hawdd i lawer gael eu cau i mewn gan ychydig, ac nid oes gwahaniaeth yng ngolwg y nef p'run ai trwy lawer neu trwy ychydig y daw gwaredigaeth.

19. Nid yw buddugoliaeth mewn rhyfel yn dibynnu ar luosogrwydd byddin; o'r nef yn hytrach y daw nerth.

20. Y maent yn ymosod arnom, yn llawn traha ac anghyfraith, i'n dinistrio ni a'n gwragedd a'n plant, ac i'n hysbeilio,

21. ond yr ydym ninnau'n brwydro dros ein bywydau a'n cyfreithiau.

22. Bydd ef yn eu dryllio o flaen ein llygaid; felly peidiwch chwi â'u hofni.”

23. Wedi iddo orffen siarad, gwnaeth ymosodiad sydyn ar y gelyn, a drylliwyd Seron a'i fyddin o'i flaen.

24. Ymlidiasant Seron i lawr trwy fwlch Beth-horon hyd at y gwastadedd, a lladd tua wyth gant o'r gelyn; ffodd y gweddill i wlad y Philistiaid.

25. Yna dechreuwyd ofni Jwdas a'i frodyr, a syrthiodd braw ar y Cenhedloedd o'u hamgylch.

26. Daeth ei fri i glustiau'r brenin, ac yr oedd sôn ymhlith y cenhedloedd am frwydrau Jwdas.

Penodi Lysias yn Llywodraethwr

27. Pan glywodd y Brenin Antiochus y newydd yma, aeth yn ddig dros ben, a gorchmynnodd gasglu ynghyd holl luoedd ei deyrnas, yn fyddin gref iawn.

28. Agorodd ei drysorfa, a rhoi cyflog blwyddyn i'w filwyr, a gorchymyn iddynt fod yn barod ar gyfer unrhyw anghenraid.

29. Ond gwelodd fod yr arian yn ei drysorfa wedi pallu, am fod y trethi a gesglid o'r dalaith yn fach, ar gyfrif yr ymraniad a'r trychineb yr oedd ef wedi eu dwyn ar y wlad trwy ddiddymu'r cyfreithiau a oedd mewn bod er y dyddiau cynharaf.

30. Aeth i ofni hefyd na fyddai ganddo ddigon o arian—fel y digwyddodd unwaith neu ddwy o'r blaen—ar gyfer ei dreuliau, ac ar gyfer yr anrhegion yr arferai eu rhoi mor hael, yn helaethach hyd yn oed na'r brenhinoedd a fu o'i flaen.

31. Yr oedd mewn penbleth mawr; yna penderfynodd fynd i Persia i gasglu trethi'r taleithiau a chodi swm mawr o arian.

32. Gadawodd ar ei ôl Lysias, gŵr enwog o linach frenhinol, i fod yn gyfrifol am fuddiannau'r brenin o Afon Ewffrates hyd at ffiniau'r Aifft,

33. ac i ofalu am Antiochus ei fab hyd nes y byddai ef ei hun yn dychwelyd.

34. Trosglwyddodd hanner ei fyddinoedd iddo, ynghyd â'r eliffantod, a rhoddodd gyfarwyddyd iddo ynglŷn â'r cwbl yr oedd am iddo'i wneud, yn enwedig ynglŷn â thrigolion Jwdea a Jerwsalem.

35. Yr oedd i anfon byddin yn erbyn y rhain, i ddryllio a dinistrio cryfder Israel a gweddill Jerwsalem, a dileu'r cof amdanynt o'r lle.

36. Yr oedd hefyd i osod estroniaid yn eu holl diriogaeth, a rhannu eu gwlad i'r rheini drwy goelbrennau.

37. Yna cymerodd y brenin yr hanner o'i fyddin a oedd yn weddill, ac ymadawodd o Antiochia, ei brif ddinas, yn y flwyddyn 147. Croesodd Afon Ewffrates ac aeth trwy daleithiau'r dwyrain.

Buddugoliaethau Pellach Jwdas

38. Dewisodd Lysias ddynion cryf o blith Cyfeillion y Brenin, sef Ptolemeus fab Dorymenes, a Nicanor a Gorgias,

39. ac anfonodd gyda hwy ddeugain mil o wŷr traed a saith mil o wŷr meirch i fynd i wlad Jwda i'w dinistrio hi yn ôl gorchymyn y brenin.

40. Ymadawsant felly gyda'u holl lu, a daethant a gwersyllu ger Emaus, ar y gwastatir.

41. A phan glywodd masnachwyr y dalaith y sôn amdanynt, cymerasant swm enfawr o arian ac aur, ynghyd â llyffetheiriau, a daethant i'r gwersyll i brynu plant Israel yn gaethweision. Ymunodd byddin o Syria ac o wlad y Philistiaid â hwy.

42. Pan welodd Jwdas a'i frodyr fod pethau'n mynd o ddrwg i waeth, a bod byddinoedd yn gwersyllu y tu mewn i ffiniau eu gwlad, a hwythau'n gwybod am orchmynion y brenin i ddinistrio'r genedl yn llwyr,

43. dywedasant wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ailgodi adfeilion ein pobl, ac ymladd dros ein pobl a'n cysegr.”

44. Daeth y gynulleidfa ynghyd i baratoi at ryfel ac i weddïo a deisyf am drugaredd a thosturi.

45. Yr oedd Jerwsalem yn anghyfannedd fel anialwch,heb neb o'i phlant yn mynd i mewn nac allan,a'i chysegr yn cael ei sathru dan draed.Estroniaid oedd yn ei chaer,a hithau'n llety i'r Cenhedloedd.Amddifadwyd Jacob o'i lawenydd,a distawodd y ffliwt a'r delyn.

46. Daethant ynghyd i Mispa, gyferbyn â Jerwsalem, oherwydd yno bu lle gweddi gynt i Israel.

47. Y diwrnod hwnnw ymprydiodd y bobl, gan wisgo sachliain a rhoi lludw ar eu pennau a rhwygo'u dillad.

48. Agorasant sgrôl y gyfraith, i chwilio am yr hyn yr oedd y Cenhedloedd yn ei gael gan ddelwau eu duwiau.

49. Daethant â dillad yr offeiriaid hefyd, a'r blaenffrwythau a'r degymau, a chyflwyno'r Nasireaid a oedd wedi cyflawni eu haddunedau.

50. Gwaeddasant yn uchel i'r nefoedd gan ddweud, “Beth a wnawn â'r rhai hyn, ac i ble yr awn â hwy?

51. Y mae dy gysegr di wedi ei sathru a'i halogi, a'th offeiriaid mewn galar a darostyngiad.

52. A dyma'r Cenhedloedd wedi dod ynghyd yn ein herbyn i'n dinistrio, ac fe wyddost ti beth yw eu cynlluniau yn ein herbyn.

53. Sut y gallwn ni eu gwrthsefyll os na fydd i ti ein cynorthwyo?”

54. Yna canasant yr utgyrn, a gweiddi â llef uchel.

55. Wedi hyn, penododd Jwdas lywodraethwyr ar y bobl, swyddogion dros fil, dros gant, dros hanner cant a thros ddeg.

56. A dywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu tai, a'r rhai oedd wedi eu dyweddïo, a'r rhai oedd yn plannu gwinllannoedd, a'r rhai ofnus, am ddychwelyd bob un i'w gartref, yn unol â'r gyfraith.

57. Ac ymadawodd y fyddin, a gwersyllu i'r de o Emaus.

58. Ac meddai Jwdas, “Ymwregyswch a byddwch yn filwyr gwrol, a byddwch yn barod ben bore yfory i ymladd y Cenhedloedd hyn sydd wedi ymgasglu yn ein herbyn i'n dinistrio ni a'n cysegr.

59. Oherwydd y mae'n well inni farw mewn brwydr na gwylio trychineb yn disgyn ar ein cenedl a'i chysegr.

60. Ond fel yr ewyllysir yn y nef, felly y bydd.”