Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Marw'r Brenin Alexander

1. Casglodd brenin yr Aifft luoedd mor niferus â'r tywod sydd ar lan y môr, a llongau lawer; a cheisiodd gipio teyrnas Alexander trwy ddichell, a'i hychwanegu at ei deyrnas ei hun.

2. Aeth i Syria â'i eiriau'n llawn heddwch, a dyma drigolion y trefi yn agor iddo a mynd allan i'w gyfarfod, oherwydd i'r Brenin Alexander orchymyn mynd i'w gyfarfod am mai ei dad-yng-nghyfraith oedd.

3. Fel yr oedd Ptolemeus yn mynd i mewn i'r trefi, gosododd warchodlu ym mhob tref.

4. Pan gyrhaeddwyd Asotus dangoswyd iddo deml Dagon wedi ei llosgi, Asotus a'i maestrefi yn adfeilion, y cyrff wedi eu gwasgaru ar hyd y lle, a'r rhai yr oedd Jonathan wedi eu llosgi yn y rhyfel wedi eu gadael yn bentyrrau ar hyd ei ffordd.

5. Mynegwyd i'r brenin beth yr oedd Jonathan wedi ei wneud, er mwyn bwrw'r bai arno; ond tewi a wnaeth y brenin.

6. Daeth Jonathan mewn rhwysg i gyfarfod y brenin yn Jopa; cyfarchodd y ddau ei gilydd, a chysgu yno.

7. Aeth Jonathan gyda'r brenin hyd at yr afon a elwir Elewtherus; yna dychwelodd i Jerwsalem.

8. Gwnaeth y Brenin Ptolemeus ei hun yn arglwydd ar drefi'r arfordir hyd at Selewcia ger y môr, gan fwriadu bwriadau drwg yn erbyn Alexander.

9. Anfonodd genhadau at y Brenin Demetrius a dweud: “Tyrd, gad inni wneud cyfamod â'n gilydd, a rhof i ti fy merch, gwraig Alexander, a chei deyrnasu ar deyrnas dy dad.

10. Oherwydd y mae'n edifar gennyf imi roi fy merch iddo ef, ac yntau wedi ceisio fy lladd.”

11. Cafodd fai ar Alexander fel hyn am ei fod yn chwenychu ei deyrnas.

12. Cymerodd ei ferch oddi arno a'i rhoi i Demetrius. Ymddieithriodd oddi wrth Alexander, a daeth yr elyniaeth rhyngddynt yn amlwg.

13. Aeth Ptolemeus i mewn i Antiochia a gwisgo coron Asia; felly daeth i wisgo dwy goron, un yr Aifft ac un Asia.

14. Yr adeg honno yr oedd y Brenin Alexander yn Cilicia, oherwydd bod trigolion y parthau hynny mewn gwrthryfel.

15. Pan glywodd Alexander, aeth i ryfel yn erbyn Ptolemeus, a daeth yntau allan i'w gyfarfod â llu mawr, a'i yrru ar ffo.

16. Ffoes Alexander i Arabia i geisio nodded yno, ac yr oedd y Brenin Ptolemeus uwchben ei ddigon.

17. Torrodd Sabdiel yr Arabiad ben Alexander i ffwrdd, a'i anfon at Ptolemeus.

18. Ond bu farw'r Brenin Ptolemeus yntau ymhen tridiau, a dinistriwyd gwarchodlu ei geyrydd gan eu trigolion.

19. Felly daeth Demetrius yn frenin yn y flwyddyn 167.

Jonathan yn Ennill Ffafr Demetrius II

20. Yn y dyddiau hynny casglodd Jonathan wŷr Jwdea ynghyd er mwyn ymosod ar y gaer oedd yn Jerwsalem, a chododd lawer o beiriannau rhyfel yn ei herbyn.

21. Yna aeth rhai digyfraith, a oedd yn casáu eu cenedl eu hunain, at y brenin a dweud wrtho fod Jonathan yn gwarchae ar y gaer.

22. Pan glywodd yntau, enynnwyd ei ddicter; ac ar y gair aeth ymaith yn ddi-oed a dod i Ptolemais. Ysgrifennodd at Jonathan i godi'r gwarchae a dod i Ptolemais ar fyrder i'w gyfarfod ac i gydymgynghori ag ef.

23. Pan gafodd Jonathan y neges, gorchmynnodd barhau'r gwarchae. Dewisodd rai o blith henuriaid Israel ac o'r offeiriaid i fynd gydag ef, ac ymdaflodd i'r antur beryglus.

24. Cymerodd arian ac aur, a gwisgoedd, a llawer o anrhegion eraill, a mynd at y brenin i Ptolemais; a chafodd ffafr yn ei olwg.

25. Er i rai digyfraith o'r genedl achwyn arno,

26. gwnaeth y brenin ag ef fel y gwnaethai ei ragflaenwyr, gan ei anrhydeddu yng ngŵydd ei holl Gyfeillion.

27. Cadarnhaodd ef yn ei swydd fel archoffeiriad, ac ym mhob anrhydedd arall a oedd ganddo o'r blaen, a pheri ei godi i blith ei Gyfeillion pennaf.

28. Deisyfodd Jonathan ar y brenin ryddhau Jwdea, ynghyd â'r tair talaith a Samaria, o dreth, ac addawodd iddo dri chant o dalentau.

29. Bodlonodd y brenin, ac ysgrifennodd lythyrau at Jonathan ynghylch y pethau hyn oll fel a ganlyn:

30. “Y Brenin Demetrius at y brawd Jonathan, ac at genedl yr Iddewon, cyfarchion.

31. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasom at ein perthynas Lasthenes yn eich cylch, wedi ei gopïo i'w anfon atoch chwithau hefyd, er gwybodaeth i chwi:

32. ‘Y Brenin Demetrius at ei dad Lasthenes, cyfarchion.

33. Penderfynasom wneud cymwynas â chenedl yr Iddewon, ein cyfeillion sydd yn cadw eu cytundebau â ni, ar bwys eu hewyllys da tuag atom.

34. Yn lle'r trethi y byddai'r brenin yn eu derbyn ganddynt o'r blaen bob blwyddyn, o gynnyrch y ddaear ac o'r coed ffrwythau, yr ydym wedi sicrhau iddynt gyffiniau Jwdea, ynghyd â'r tair rhandir Afferema, Lyda, a Ramathaim; y mae'r rhain, a phopeth sy'n perthyn iddynt, yn awr wedi eu trosglwyddo oddi ar Samaria i Jwdea. Bydd hyn er lles pawb sydd yn aberthu yn Jerwsalem.

35. Am y trethi eraill sy'n eiddo i ni, o'r degymau a'r tollau sy'n eiddo i ni, a'r pyllau halen ac arian y goron sy'n eiddo i ni, o hyn ymlaen byddwn yn eu rhyddhau o'r cwbl.

36. Nid yw'r un o'r trefniadau hyn i'w ddiddymu o hyn ymlaen hyd byth.

37. Yn awr, felly, gofalwch am wneud copi ohonynt i'w roi i Jonathan i'w osod mewn lle amlwg yn y mynydd sanctaidd.’ ”

Jonathan yn Cynorthwyo Demetrius II

38. Pan welodd y Brenin Demetrius fod y wlad wedi ymdawelu dano, ac nad oedd dim gwrthryfel yn ei erbyn, gollyngodd ymaith ei holl luoedd, pob un i'w le ei hun, ac eithrio lluoedd yr estroniaid hynny yr oedd wedi eu casglu'n filwyr cyflog o ynysoedd y Cenhedloedd. Am hynny cododd gelyniaeth tuag ato ymhlith yr holl luoedd a fu dan ei ragflaenwyr.

39. Pan welodd Tryffo, a oedd o'r blaen yn un o wŷr Alexander, fod yr holl luoedd yn grwgnach yn erbyn Demetrius, aeth at Imalcwe yr Arabiad, tad maeth Antiochus, mab bychan Alexander,

40. a phwyso arno drosglwyddo'r bachgen iddo ef, i'w wneud yn frenin yn lle ei dad. Mynegodd i Imalcwe hefyd yr holl bethau a gyflawnodd Demetrius, a'r elyniaeth a oedd gan ei luoedd tuag ato. Arhosodd yno am ddyddiau lawer.

41. Anfonodd Jonathan at y Brenin Demetrius i ofyn iddo dynnu allan y gwŷr o'r gaer yn Jerwsalem a'r gwŷr oedd yn yr amddiffynfeydd, oherwydd yr oeddent yn rhyfela yn erbyn Israel.

42. Anfonodd Demetrius at Jonathan yr ateb hwn: “Nid y pethau hyn yn unig a wnaf er dy fwyn di a'th genedl, ond fe roddaf i ti ac i'th genedl yr anrhydedd uchaf, pan gaf amser cyfaddas.

43. Yn awr, gan hynny, byddi'n gwneud cymwynas â mi os anfoni ataf wŷr i ryfela wrth fy ochr, oherwydd y mae fy holl luoedd wedi cefnu arnaf.”

44. Yna anfonodd Jonathan ato i Antiochia dair mil o wŷr cyhyrog; daethant at y brenin, a pharodd eu dyfodiad lawenydd mawr i'r brenin.

45. Ymgasglodd y dinasyddion i ganol y ddinas, tua chant ac ugain o filoedd o wŷr, â'u bryd ar ladd y brenin.

46. Ffoes y brenin i'r palas; meddiannodd y dinasyddion strydoedd y ddinas a dechrau ymladd.

47. Galwodd y brenin yr Iddewon i'w gynorthwyo; ymgasglasant i gyd ato ar unwaith, ac yna ymledu ar hyd y ddinas a lladd tua chan mil y dydd hwnnw.

48. Llosgodd yr Iddewon y ddinas a chymryd llawer o ysbail y dydd hwnnw, ac achub y brenin hefyd.

49. Pan welodd y dinasyddion fod yr Iddewon wedi dod yn feistri llwyr ar y ddinas, collasant eu hyder, ac ymbil ar y brenin, gan lefain fel hyn:

50. “Estyn inni dy ddeheulaw mewn heddwch, a gad i'r Iddewon roi heibio eu cyrch yn ein herbyn ni a'n dinas.”

51. Taflasant ymaith eu harfau, a gwneud heddwch. Anrhydeddwyd yr Iddewon yng ngŵydd y brenin ac yng ngŵydd pawb yn ei deyrnas. Dychwelsant i Jerwsalem a chanddynt lawer o ysbail.

52. Felly eisteddodd y Brenin Demetrius ar orsedd ei deyrnas, a bu'r wlad yn dawel dano.

53. Ond twyll fu ei holl addewidion; ymddieithriodd oddi wrth Jonathan, ac yn hytrach na thalu'n ôl y cymwynasau a wnaeth Jonathan ag ef, aeth rhagddo i aflonyddu'n fawr arno.

Jonathan yn Cefnogi Antiochus VI

54. Ar ôl hyn dychwelodd Tryffo, a'r bachgen ifanc Antiochus gydag ef, a choronwyd ef yn frenin.

55. Ymgasglodd ato yr holl luoedd yr oedd Demetrius wedi eu troi heibio, ac ymladdasant yn erbyn Demetrius. Enciliodd yntau, a gyrrwyd ef ar ffo.

56. Daeth yr eliffantod i feddiant Tryffo, a choncrodd Antiochia.

57. Ysgrifennodd Antiochus ifanc at Jonathan fel hyn: “Yr wyf yn dy gadarnhau yn dy swydd fel archoffeiriad, ac yn dy osod dros y pedair rhandir, ac yn dy wneud yn un o Gyfeillion y Brenin.”

58. Anfonodd iddo lestri aur at ei wasanaeth, a rhoes iddo'r hawl i yfed allan o lestri aur, i ymddilladu mewn porffor a gwisgo clespyn aur.

59. Gosododd ei frawd Simon yn llywodraethwr ar y parthau o Risiau Tyrus hyd at gyffiniau'r Aifft.

60. Aeth Jonathan allan a theithio trwy'r wlad yr ochr arall i'r afon, a'r trefi yno. Ymgasglodd ato holl luoedd Syria, i fod yn gynghreiriaid iddo. Cyrhaeddodd Ascalon, a daeth y dinasyddion allan i'w dderbyn yn anrhydeddus.

61. Oddi yno aeth i Gasa, ond caeodd pobl Gasa y pyrth yn ei erbyn. Gwarchaeodd yntau arni a llosgi ei maestrefi â thân, a'u hysbeilio.

62. Ymbiliodd pobl Gasa am heddwch, a gwnaeth Jonathan delerau â hwy. Cymerodd feibion eu harweinwyr yn wystlon, a'u hanfon i ffwrdd i Jerwsalem. Yna tramwyodd trwy'r wlad hyd at Ddamascus.

63. Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi cyrraedd Cedes yng Ngalilea gyda llu mawr, gan fwriadu ei atal rhag cyflawni ei amcan.

64. Aeth i'w cyfarfod, ond gadawodd ei frawd Simon yn Jwdea.

65. Gwersyllodd Simon o flaen Bethswra, ac wedi ymladd yn ei herbyn dros ddyddiau lawer, gosododd hi dan warchae.

66. Ymbiliodd y trigolion am delerau heddwch, a chydsyniodd yntau. Taflodd hwy allan oddi yno, ac wedi meddiannu'r dref gosododd warchodlu o'i mewn.

67. Gwersyllodd Jonathan a'i fyddin wrth Lyn Genesaret, a chodasant yn y bore bach i deithio hyd wastatir Asor.

68. A dyma fyddin yr estroniaid yn dod i'w gyfarfod yn y gwastatir. Yr oeddent wedi gosod mintai guddiedig yn ei erbyn yn y mynyddoedd, ond daethant hwy eu hunain i'w gyfarfod wyneb yn wyneb.

69. Cododd y fintai guddiedig allan o'u cuddfannau ac ymuno yn yr ymladd.

70. Ffoes holl wŷr Jonathan; ni adawyd un ohonynt ond Matathias fab Absalom a Jwdas fab Chalffi, capteiniaid lluoedd y fyddin.

71. Rhwygodd Jonathan ei ddillad a rhoi pridd ar ei ben, a mynd i weddi.

72. Yna dychwelodd i ymladd â'r gelyn; gyrrodd hwy ar ffo, ac enciliasant.

73. Pan welodd ffoaduriaid ei fyddin ef hyn dychwelsant ato, ac ymlid y gelyn gydag ef, hyd at eu gwersyll yn Cedes; ac yno y gwersyllasant.

74. Syrthiodd tua thair mil o wŷr yr estroniaid y dydd hwnnw, a dychwelodd Jonathan i Jerwsalem.