Yn awr, tyrd dithau yn gyntaf, ac ufuddha i orchymyn y brenin, fel y gwnaeth yr holl Genhedloedd, a thrigolion Jwda, a'r rhai a adawyd ar ôl yn Jerwsalem. Yna cei di a'th feibion eich cyfrif yn Gyfeillion y Brenin; cei di a'th feibion eich anrhydeddu ag arian ac aur a llawer o anrhegion.”