Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Macabeaid 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Aeth Ioan i fyny o Gasara ac adrodd i'w dad Simon beth a gyflawnodd Cendebeus.

2. Galwodd Simon ei ddau fab hynaf, Jwdas ac Ioan, a dweud wrthynt, “Yr wyf fi a'm brodyr a thŷ fy nhad wedi ymladd brwydrau Israel o'n hieuenctid hyd y dydd hwn, a ffynnodd yr achos dan ein dwylo fel y gwaredwyd Israel lawer gwaith.

3. Bellach yr wyf fi wedi heneiddio, ond trwy drugaredd yr ydych chwi ym mlodau eich dyddiau. Cymerwch chwi fy lle i a'm brawd; ewch allan ac ymladd dros ein cenedl; a boed cymorth y nef gyda chwi.”

4. Detholodd o'r wlad ugain mil o ryfelwyr a gwŷr meirch, ac aethant yn erbyn Cendebeus, a bwrw'r nos yn Modin.

5. Codasant yn fore a symud i'r gwastatir; a dyma lu mawr, yn wŷr traed a gwŷr meirch, yn dod i'w cyfarfod. Yr oedd ceunant yn eu gwahanu,

6. a gwersyllodd Ioan a'i filwyr gyferbyn â'r gelyn. Pan welodd Ioan fod y milwyr yn ofni croesi'r ceunant, croesodd ef ei hun yn gyntaf. O'i weld, croesodd ei wŷr ar ei ôl.

7. Rhannodd Ioan ei filwyr, gyda'r gwŷr meirch yng nghanol y gwŷr traed; oherwydd yr oedd gwŷr meirch y gelyn yn lluosog iawn.

8. Canwyd yr utgyrn, a gyrrwyd Cendebeus a'i fyddin ar ffo; syrthiodd llawer ohonynt, wedi eu clwyfo'n angheuol, a ffoes y gweddill i'r amddiffynfa.

9. Dyna'r pryd y clwyfwyd Jwdas brawd Ioan. Ymlidiodd Ioan hwy, hyd nes i Cendebeus gyrraedd Cedron, y dref yr oedd wedi ei hadeiladu.

10. Ffodd y gelyn i'r tyrau sydd ym meysydd Asotus, a llosgodd yntau'r dref â thân. Syrthiodd tua dwy fil o wŷr y gelyn; yna dychwelodd Ioan i Jwdea mewn heddwch.

Llofruddio Simon a Dau o'i Feibion

11. Yr oedd Ptolemeus fab Abwbus wedi ei benodi'n llywodraethwr ar wastatir Jericho. Yr oedd ganddo lawer o arian ac aur,

12. oherwydd ef oedd mab-yng-nghyfraith yr archoffeiriad.

13. Ond aeth yn rhy uchelgeisiol, a chwennych meddiannu'r wlad. Cynllwyniodd yn ddichellgar yn erbyn Simon a'i feibion, i'w lladd.

14. Tra oedd Simon yn ymweld â threfi'r wlad i ofalu am eu buddiannau, daeth ef a'i feibion Matathias a Jwdas i lawr i Jericho yn y flwyddyn 177, yn yr unfed mis ar ddeg, sef mis Sabat.

15. Derbyniodd mab Abwbus hwy yn ddichellgar i'r amddiffynfa a elwir Doc, a oedd wedi ei hadeiladu ganddo, a gwnaeth wledd fawr iddynt. Cuddiodd wŷr yno,

16. a phan oedd Simon a'i feibion wedi yfed yn helaeth cododd Ptolemeus a'i wŷr ac ymarfogi a mynd i mewn i neuadd y wledd, a'i ladd ef a'i ddau fab a rhai o'i weision.

17. Gwnaeth anfadwaith mawr, gan dalu drwg am dda.

18. Ysgrifennodd Ptolemeus yr hanes hwn a'i anfon at y brenin, er mwyn iddo ef anfon byddin ato i'w gynorthwyo, a throsglwyddo'r wlad a'i threfi i'w ddwylo.

19. Anfonodd eraill o'i wŷr i Gasara i ladd Ioan, ac anfonodd lythyrau at swyddogion y fyddin yn eu hannog i ymuno ag ef, gan gynnig iddynt arian ac aur yn anrhegion.

20. Anfonodd eraill i feddiannu Jerwsalem a mynydd y deml.

21. Ond rhedodd rhywun ar y blaen i Gasara a dweud wrth Ioan am lofruddiaeth ei dad a'i frodyr, gan ychwanegu: “Y mae wedi anfon rhai i'th ladd dithau hefyd.”

22. Pan glywodd yntau aeth yn orffwyll. Daliodd y gwŷr a ddaeth i'w lofruddio, a'u lladd hwy, am ei fod yn gwybod eu bod yn ceisio'i lofruddio.

23. Am y gweddill o weithredoedd Ioan, ei ryfeloedd a'r gwrhydri a wnaeth, y muriau a adeiladodd, a'i orchestion,

24. y mae'r rhain wedi eu hysgrifennu yng nghofnodion ei archoffeiriadaeth, o'r amser y daeth yn archoffeiriad ar ôl ei dad.