Yr oedd Jerwsalem yn anghyfannedd fel anialwch,heb neb o'i phlant yn mynd i mewn nac allan,a'i chysegr yn cael ei sathru dan draed.Estroniaid oedd yn ei chaer,a hithau'n llety i'r Cenhedloedd.Amddifadwyd Jacob o'i lawenydd,a distawodd y ffliwt a'r delyn.