1. A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.
2. Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a'r Nethiniaid.
3. Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse:
4. Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda.
5. Ac o'r Siloniaid; Asaia y cyntaf‐anedig, a'i feibion.
6. Ac o feibion Sera; Jeuel, a'u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain.
7. Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua,
8. Ibneia hefyd mab Jeroham, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija;
9. A'u brodyr yn ôl eu cenedlaethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau‐cenedl ar dŷ eu tadau.
10. Ac o'r offeiriaid; Jedaia, a Jehoiarib, a Jachin,
11. Asareia hefyd mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ Dduw;
12. Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malceia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.
13. A'u brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw.
14. Ac o'r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari,
15. Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff;
16. Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid.
17. Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a'u brodyr; Salum ydoedd bennaf;
18. A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion.
19. Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a'u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.
20. Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o'r blaen: a'r Arglwydd ydoedd gydag ef.
21. Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.
22. Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.
23. Felly hwynt a'u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau.
24. Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau.
25. A'u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt.
26. Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.
27. Ac o amgylch tŷ Dduw y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore.
28. Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.
29. A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a'r gwin, a'r olew, a'r thus, a'r aroglau peraidd.
30. Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o'r aroglau peraidd.
31. A Matitheia, un o'r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf‐anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell.
32. Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i'w ddarparu bob Saboth.
33. A dyma y cantorion, pennau‐cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos.
34. Dyma bennau‐cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.
35. Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha:
36. A'i fab cyntaf‐anedig ef oedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab,
37. A Gedor, ac Ahïo, a Sechareia a Micloth.
38. A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda'u brodyr.
39. Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.
40. A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha.
41. A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.
42. Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa:
43. A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.
44. Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.