1. Felly y dygasant hwy arch Duw i mewn, ac a'i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw.
2. Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw yr Arglwydd.
3. Ac efe a rannodd i bob un o Israel, yn ŵr ac yn wraig, dorth o fara, a dryll o gig, a chostrelaid o win.
4. Ac efe a osododd gerbron arch yr Arglwydd weinidogion o'r Lefiaid, i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori Arglwydd Dduw Israel.
5. Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac Eliab, a Benaia, ac Obed‐edom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio â symbalau.
6. Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw.
7. Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd, yn llaw Asaff a'i frodyr.
8. Moliennwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd.
9. Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau.
10. Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr Arglwydd.
11. Ceiswch yr Arglwydd a'i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol.
12. Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaeth efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau;
13. Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef.
14. Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni; ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
15. Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau;
16. Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a'i lw i Isaac:
17. Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
18. Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
19. Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi;
20. A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill;
21. Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe a geryddodd frenhinoedd o'u plegid hwy, gan ddywedyd,
22. Na chyffyrddwch â'm heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
23. Cenwch i'r Arglwydd yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
24. Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a'i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd.
25. Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.
26. Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
27. Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.
28. Moeswch i'r Arglwydd, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.
29. Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i'r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd.
30. Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo.
31. Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaear; a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu.
32. Rhued y môr a'i gyflawnder; llawenhaed y maes, a'r hyn oll y sydd ynddo.
33. Yna prennau y coed a ganant o flaen yr Arglwydd, am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear.
34. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
35. A dywedwch, Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant.
36. Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr Arglwydd.
37. Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr Arglwydd, Asaff a'i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd:
38. Ac Obed‐edom a'u brodyr, wyth a thrigain; Obed‐edom hefyd mab Jeduthun, a Hosa, i fod yn borthorion:
39. Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr Arglwydd, yn yr uchelfa oedd yn Gibeon,
40. I offrymu poethoffrymau i'r Arglwydd ar allor y poethoffrwm yn wastadol fore a hwyr, yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd, yr hon a orchmynnodd efe i Israel:
41. A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a'r etholedigion eraill, y rhai a hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr Arglwydd, am fod ei drugaredd ef yn dragywydd:
42. A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, yn lleisio ag utgyrn, ac â symbalau i'r cerddorion, ac offer cerdd Duw: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth.
43. A'r holl bobl a aethant bob un i'w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntau.