Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.

2. A'r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a'r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul.

3. A'r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a'r perchen bwâu a'i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion.

4. Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwân fi ag ef, rhag dyfod y rhai dienwaededig hyn a'm gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnâi, canys ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno.

5. A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw.

6. Felly y bu farw Saul, a'i dri mab ef, a'i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd.

7. A phan welodd holl wŷr Israel, y rhai oedd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a'i feibion; hwy a ymadawsant o'u dinasoedd, ac a ffoesant; a'r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.

8. A thrannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a'i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa.

9. Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a'i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ddangos i'w delwau, ac i'r bobl.

10. A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau, a'i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.

11. A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul,

12. Pob gŵr nerthol a godasant, ac a gymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a'u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.

13. Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr Arglwydd, sef yn erbyn gair yr Arglwydd yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi;

14. Ac heb ymgynghori â'r Arglwydd: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.