Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni.

2. Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel i mewn ac allan: a dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrthyt, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel.

3. A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Samuel.

4. A Dafydd a holl Israel a aeth i Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yno y Jebusiaid oedd drigolion y tir.

5. A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion, yr hwn yw dinas Dafydd.

6. A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr esgynnodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf.

7. A thrigodd Dafydd yn y tŵr: oherwydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd.

8. Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i'r ddinas.

9. A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef.

10. Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i'w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd.

11. A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo.

12. Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o'r tri chadarn.

13. Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a'r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o'r maes yn llawn haidd, a'r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid.

14. A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a'i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr.

15. A thri o'r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i'r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.

16. A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem.

17. A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth?

18. A'r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a'i cymerasant ac a'i dygasant i Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a'i diodoffrymodd ef i'r Arglwydd:

19. Ac efe a ddywedodd, Na ato fy Nuw i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.

20. Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o'r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a'u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri.

21. O'r tri, anrhydeddusach na'r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf.

22. Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.

23. Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a'i lladdodd ef â'i waywffon ei hun.

24. Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn.

25. Wele, anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard.

26. A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, Elhanan mab Dodo o Bethlehem,

27. Sammoth yr Harodiad, Heles y Peloniad,

28. Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad,

29. Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad,

30. Maharai y Netoffathiad, Heled mab Baana y Netoffathiad,

31. Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, Benaia y Pirathoniad,

32. Hurai o afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad,

33. Asmafeth y Baharumiad, Eliahba y Saalboniad,

34. Meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad,

35. Ahïam mab Sachar yr Harariad, Eliffal mab Ur,

36. Heffer y Mecherathiad, Ahïa y Peloniad,

37. Hesro y Carmeliad, Naarai mab Esbai,

38. Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri,

39. Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia,

40. Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

41. Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai,

42. Adina mab Sisa y Reubeniad, pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain,

43. Hanan mab Maacha, a Josaffat y Mithniad,

44. Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hothan yr Aroeriad,

45. Jediael mab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad,

46. Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad,

47. Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.