Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A dyma y rhai a ddaeth at Dafydd i Siclag, ac efe eto yn cadw arno rhag Saul mab Cis: a hwy oedd ymhlith y rhai cedyrn, cynorthwywyr y rhyfel,

2. Yn arfogion â bwâu, yn medru o ddeau ac o aswy daflu â cherrig, a saethu mewn bwâu: o frodyr Saul, o Benjamin.

3. Y pennaf oedd Ahieser, yna Joas, meibion Semaa y Gibeathiad, a Jesiel a Phelet meibion Asmafeth, a Beracha, a Jehu yr Anthothiad,

4. Ac Ismaia y Gibeoniad, grymus oedd efe ymhlith y deg ar hugain, a goruwch y deg ar hugain; Jeremeia hefyd, a Jehasiel, a Johanan, a Josabad y Gederathiad,

5. Elusai, a Jerimoth, a Bealeia, a Semareia, Seffatia yr Haruffiad.

6. Elcana, a Jeseia, ac Asareel, a Joeser, a Jasobeam, y Corhiaid,

7. A Joela, a Sebadeia, meibion Jeroham o Gedor.

8. A rhai o'r Gadiaid a ymneilltuasant at Dafydd i'r amddiffynfa i'r anialwch, yn gedyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel, yn medru trin tarian a bwcled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac megis iyrchod ar y mynyddoedd o fuander oeddynt hwy.

9. Eser y cyntaf, Obadeia yr ail, Eliab y trydydd,

10. Mismanna y pedwerydd, Jeremeia y pumed,

11. Attai y chweched, Eliel y seithfed,

12. Johanan yr wythfed, Elsabad y nawfed,

13. Jeremeia y degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg.

14. Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a'r mwyaf ar fil.

15. Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua'r dwyrain, a thua'r gorllewin.

16. A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i'r amddiffynfa at Dafydd.

17. A Dafydd a aeth i'w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i'm cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un â chwi: ond os i'm bradychu i'm gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.

18. A'r ysbryd a ddaeth ar Amasai pennaeth y capteiniaid, ac efe a ddywedodd, Eiddot ti, Dafydd, a chyda thi, mab Jesse, y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i'th gynorthwywyr; oherwydd dy Dduw sydd yn dy gymorth di. Yna Dafydd a'u croesawodd hwynt, ac a'u gosododd hwy yn benaethiaid ar y fyddin.

19. A rhai o Manasse a droes at Dafydd, pan ddaeth efe gyda'r Philistiaid yn erbyn Saul i ryfel, ond ni chynorthwyasant hwynt: canys penaduriaid y Philistiaid, wrth gyngor, a'i gollyngasant ef ymaith, gan ddywedyd, Efe a syrth at ei feistr Saul am ein pennau ni.

20. Fel yr oedd efe yn myned i Siclag, trodd ato ef o Manasse, Adna, a Josabad, a Jediael, a Michael, a Josabad, ac Elihu, a Silthai, y rhai oedd benaethiaid y miloedd ym Manasse.

21. A'r rhai hyn a gynorthwyasant Dafydd yn erbyn y dorf: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy oll, a chapteiniaid ar y llu.

22. Canys rhai a ddeuai at Dafydd beunydd y pryd hwnnw, i'w gynorthwyo ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.

23. A dyma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Dafydd i Hebron, i droi brenhiniaeth Saul ato ef, yn ôl gair yr Arglwydd.

24. O feibion Jwda, yn dwyn tarian a ffonwayw, chwe mil ac wyth cant, yn arfog i ryfel.

25. O feibion Simeon, yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mil a chant.

26. O feibion Lefi, pedair mil a chwe chant.

27. A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroniaid, a chydag ef dair mil a saith cant.

28. Sadoc hefyd, llanc grymus nerthol, ac o dŷ ei dad ef dau ar hugain o gapteiniaid.

29. Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mil: canys hyd yn hyn llawer ohonynt oedd yn dilyn tŷ Saul.

30. Ac o feibion Effraim, ugain mil ac wyth cant, yn rymus nerthol, yn wŷr enwog yn nhŷ eu tadau.

31. Ac o hanner llwyth Manasse, tair mil ar bymtheg, y rhai a hysbysasid erbyn eu henwau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin.

32. Ac o feibion Issachar, y rhai a fedrent ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur, eu penaethiaid hwynt oedd ddeucant, a'u holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt.

33. O Sabulon, y rhai a aent allan i ryfel, yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel, deng mil a deugain, yn medru byddino, a hynny yn ffyddlon.

34. Ac o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwynt, â tharian a gwaywffon, ddwy fil ar bymtheg ar hugain.

35. Ac o'r Daniaid, wyth mil ar hugain a chwe chant, yn medru rhyfela.

36. Ac o Aser yr oedd deugain mil yn myned allan mewn byddin, yn medru rhyfela.

37. Ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o'r Reubeniaid, ac o'r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasse, y daeth chwech ugain mil mewn pob rhyw arfau cymwys i ryfel.

38. Yr holl ryfelwyr hyn, yn medru byddino, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a'r rhan arall o Israel oedd hefyd yn un feddwl i wneuthur Dafydd yn frenin.

39. A hwy a fuant yno gyda Dafydd dridiau, yn bwyta ac yn yfed: canys eu brodyr a arlwyasant iddynt hwy.

40. A hefyd, y rhai oedd agos atynt hwy, hyd Issachar, a Sabulon, a Nafftali, a ddygasant fara ar asynnod, ac ar gamelod, ac ar fulod, ac ar ychen, yn fwyd, yn flawd, yn ffigys, ac yn resingau, ac yn win, ac yn olew, ac yn wartheg, ac yn ddefaid yn helaeth: oherwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.