Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A neilltuodd Dafydd, a thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asaff, a Heman, a Jedwthwn, y rhai a broffwydent â thelynau, ac â nablau, ac â symbalau; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd:

2. O feibion Asaff; Saccur, a Joseff, a Nethaneia, Asarela, meibion Asaff, dan law Asaff, yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin.

3. A Jedwthwn: meibion Jedwthwn; Gedaleia, a Seri, a Jesaia, a Hasabeia. Matitheia, chwech, dan law Jedwthwn eu tad, ar y delyn yn proffwydo, i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd.

4. O Heman: meibion Heman; Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, a Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, a Romamti‐ieser, Josbecasa, Malothi, Hothir, a Mahasioth:

5. Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau Duw, i ddyrchafu'r corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair o ferched.

6. Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, a nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ Dduw; yn ôl trefn y brenin i Asaff, a Jedwthwn, a Heman.

7. A'u nifer hwynt, ynghyd â'u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.

8. A hwy a fwriasant goelbrennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a disgybl.

9. A'r coelbren cyntaf a ddaeth dros Asaff i Joseff: yr ail i Gedaleia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

10. Y trydydd i Saccur; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

11. Y pedwerydd i Isri; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

12. Y pumed i Nethaneia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

13. Y chweched i Bucceia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

14. Y seithfed i Jesarela; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

15. Yr wythfed i Jesaia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

16. Y nawfed i Mataneia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

17. Y degfed i Simei; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

18. Yr unfed ar ddeg i Asareel; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

19. Y deuddegfed i Hasabeia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

20. Y trydydd ar ddeg i Subael; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

21. Y pedwerydd ar ddeg i Matitheia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

22. Y pymthegfed i Jerimoth; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

23. Yr unfed ar bymtheg i Hananeia; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

24. Y ddeufed ar bymtheg i Josbecasa; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

25. Y deunawfed i Hanani; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

26. Y pedwerydd ar bymtheg i Malothi; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

27. Yr ugeinfed i Eliatha; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

28. Yr unfed ar hugain i Hothir; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

29. Y ddeufed ar hugain i Gidalti; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

30. Y trydydd ar hugain i Mahasioth; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.

31. Y pedwerydd ar hugain i Romamtieser; efe, a'i feibion a'i frodyr oedd ddeuddeg.