1. Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron; y cyntaf‐anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles:
2. Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd, Adoneia mab Haggith:
3. Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig.
4. Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
5. A'r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel:
6. Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet,
7. A Noga, a Neffeg, a Jaffia,
8. Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw.
9. Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.
10. A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau;
11. Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;
12. Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;
13. Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;
14. Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.
15. A meibion Joseia; y cyntaf‐anedig oedd Johanan, yr ail Joacim, y trydydd Sedeceia, y pedwerydd Salum.
16. A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.
17. A meibion Jechoneia; Assir, Salathiel ei fab yntau,
18. Malciram hefyd, a Phedaia, a Senasar, Jecameia, a Hosama, a Nedabeia.
19. A meibion Pedaia; Sorobabel, a Simei a meibion Sorobabel; Mesulam, a Hananeia, a Selomith eu chwaer hwynt:
20. A Hasuba, ac Ohel, a Berecheia, a Hasadeia, Jusab‐hesed, pump.
21. A meibion Hananeia; Pelatia a Jesaia: meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, meibion Sechaneia.
22. A meibion Sechaneia; Semaia: a meibion Semaia; Hattus, ac Igeal, a Bareia, a Nearia, a Saffat, chwech.
23. A meibion Nearia; Elioenai, a Heseceia, ac Asricam, tri.
24. A meibion Elioenai oedd, Hodaia, ac Eliasib, a Phelaia, ac Accub, a Johanan, a Dalaia, ac Anani, saith.