Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan oedd Dafydd yn hen, ac yn llawn o ddyddiau, efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel.

2. Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid.

3. A'r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a'u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain.

4. O'r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr Arglwydd; ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil:

5. A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr Arglwydd â'r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu.

6. A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.

7. O'r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei.

8. Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri.

9. Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl Laadan.

10. Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab Simei.

11. A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dŷ eu tad.

12. Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar.

13. Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sancteiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a'i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr Arglwydd, i'w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd.

14. A Moses gŵr Duw, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi.

15. Meibion Moses oedd, Gersom ac Elieser.

16. O feibion Gersom; Sebuel oedd y pennaf.

17. A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr.

18. O feibion Ishar; Selomith y pennaf.

19. O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.

20. O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail.

21. Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis.

22. A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a'u priododd hwynt.

23. Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jerimoth, tri.

24. Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan nifer eu henwau wrth eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr Arglwydd, o fab ugain mlwydd ac uchod.

25. Canys dywedodd Dafydd, Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch i'w bobl, i aros yn Jerwsalem byth;

26. A hefyd i'r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernacl, na dim o'i lestri, i'w wasanaeth ef.

27. Canys yn ôl geiriau diwethaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain mlwydd ac uchod:

28. A'u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth, ac yng ngwaith gweinidogaeth tŷ Dduw;

29. Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheilliaid y bwyd‐offrwm, ac yn y teisennau croyw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrio, ac ym mhob mesur a meidroldeb:

30. Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr Arglwydd, felly hefyd brynhawn:

31. Ac i offrymu pob offrwm poeth i'r Arglwydd ar y Sabothau, ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ôl y ddefod sydd arnynt yn wastadol gerbron yr Arglwydd:

32. Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod, a goruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr, yng ngwasanaeth tŷ yr Arglwydd.