Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ.

2. A gwybu Dafydd sicrhau o'r Arglwydd ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.

3. A chymerth Dafydd wragedd ychwaneg yn Jerwsalem: a Dafydd a genhedlodd feibion ychwaneg, a merched.

4. A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon,

5. Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet,

6. A Noga, a Neffeg, a Jaffa,

7. Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.

8. A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt.

9. A'r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim.

10. A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a'u rhoddaf hwynt yn dy law di.

11. Felly yr aethant i fyny i Baal‐perasim, a Dafydd a'u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal‐perasim.

12. A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân.

13. A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn.

14. A Dafydd a ymgynghorodd â Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd.

15. A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o'th flaen di, i daro llu y Philistiaid.

16. A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser.

17. Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wledydd; a'r Arglwydd a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.