Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Dywedodd Dafydd, Hwn yw tŷ yr Arglwydd Dduw, a dyma allor y poethoffrwm i Israel.

2. Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd, i adeiladu tŷ Dduw.

3. A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrth, ac i'r cysylltiadau, a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys;

4. Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a'r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd.

5. A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a'r tŷ a adeiledir i'r Arglwydd, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wledydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.

6. Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i Arglwydd Dduw Israel.

7. Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw.

8. Eithr gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dŷ i'm henw i, canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i.

9. Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr llonydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef.

10. Efe a adeilada dŷ i'm henw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth.

11. Yn awr fy mab, yr Arglwydd fyddo gyda thi, a ffynna dithau, ac adeilada dŷ yr Arglwydd dy Dduw, megis ag y llefarodd efe amdanat ti.

12. Yn unig rhodded yr Arglwydd i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orchmynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr Arglwydd dy Dduw.

13. Yna y ffynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a'r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i Moses am Israel. Ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda.

14. Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr Arglwydd gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i; ychwanega dithau atynt hwy.

15. Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith.

16. Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a'r Arglwydd a fydd gyda thi.

17. A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd,

18. Onid yw yr Arglwydd eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a'r tir a ddarostyngwyd o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei bobl ef.

19. Yn awr rhoddwch eich calon a'ch enaid i geisio yr Arglwydd eich Duw; cyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr Arglwydd Dduw, i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a sanctaidd lestri Duw, i'r tŷ a adeiledir i enw yr Arglwydd.