Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, (canys efe oedd gyntaf‐anedig, ond am iddo halogi gwely ei dad, rhoddwyd ei enedigaeth‐fraint ef i feibion Joseff, mab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaeth‐fraint:

2. Canys Jwda a ragorodd ar ei frodyr, ac ohono ef y daeth blaenor: a'r enedigaeth‐fraint a roddwyd i Joseff.)

3. Meibion Reuben cyntaf‐anedig Israel oedd, Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi.

4. Meibion Joel; Semaia ei fab ef, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau,

5. Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau,

6. Beera ei fab yntau, yr hwn a gaethgludodd Tilgath‐pilneser brenin Asyria: hwn ydoedd dywysog i'r Reubeniaid.

7. A'i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau: y pennaf oedd Jeiel, a Sechareia,

8. A Bela mab Asas, fab Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer, a hyd at Nebo, a Baalmeon.

9. Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe, hyd y lle yr eler i'r anialwch, oddi wrth afon Ewffrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead.

10. Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt, trwy holl du dwyrain Gilead.

11. A meibion Gad a drigasant gyferbyn â hwynt yng ngwlad Basan, hyd at Salcha:

12. Joel y pennaf, a Saffam yr ail, a Jaanai, a Saffat, yn Basan.

13. A'u brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd, Michael, a Mesulam, a Seba, a Jorai, a Jacan, a Sïa, a Heber, saith.

14. Dyma feibion Abihail fab Huri, fab Jaroa, fab Gilead, fab Michael, fab Jesisai, fab Jahdo, fab Bus;

15. Ahi mab Abdiel, fab Guni, y pennaf o dŷ eu tadau.

16. A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan, ac yn ei threfydd, ac yn holl bentrefi Saron, wrth eu terfynau.

17. Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Jotham brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.

18. Meibion Reuben, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, o wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dysgu i ryfel, oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain, yn myned allan i ryfel.

19. A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab.

20. A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i'w dwylo hwynt, a chwbl a'r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar Dduw yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd arnynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.

21. A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt; o'u camelod hwynt ddengmil a deugain, ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd, ac o asynnod ddwy fil, ac o ddynion gan mil.

22. Canys llawer yn archolledig a fuant feirw, am fod y rhyfel oddi wrth Dduw; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.

23. A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir: o Basan hyd Baal‐hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml.

24. Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Effer, ac Isi, ac Eliel, ac Asriel, a Jeremeia, a Hodafia, a Jadiel, gwŷr cedyrn o nerth, gwŷr enwog, a phennau tŷ eu tadau.

25. A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau, ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad, y rhai a ddinistriasai Duw o'u blaen hwynt.

26. A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath‐pilneser brenin Asyria, ac a'u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a'u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.