Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Darfu hefyd wedi gorffen y flwyddyn, yn amser myned o'r brenhinoedd allan i ryfela, arwain o Joab gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meibion Ammon, ac efe a ddaeth ac a warchaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd Rabba, ac a'i dinistriodd hi.

2. A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac efe a ddug anrhaith fawr iawn o'r ddinas.

3. A'r bobl oedd ynddi a ddug efe allan, ac a'u torrodd hwynt â llifiau, ac ag ogau heyrn, ac â bwyeill: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd â holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a'r holl bobl i Jerwsalem.

4. Ac ar ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr; felly y darostyngwyd hwynt.

5. A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a laddodd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.

6. Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a'i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i'r cawr.

7. Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a'i lladdodd ef.

8. Y rhai hyn a anwyd i'r cawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.