Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Judith 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cynllun Amddiffyn yr Israeliaid

1. Pan glywodd yr Israeliaid oedd yn preswylio yn Jwdea am y cwbl a wnaeth Holoffernes, prif gadfridog Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid, i'r cenhedloedd hynny, a'r modd yr anrheithiodd eu holl demlau a'u llwyr ddifodi,

2. parodd hynny iddynt ei ofni'n ddirfawr, a phryderu'n enbyd am Jerwsalem a theml yr Arglwydd eu Duw.

3. Nid oeddent ond newydd ddychwelyd o'r gaethglud, a dim ond yn ddiweddar yr oedd holl bobl Jwdea wedi eu hailuno, a'r llestri sanctaidd, yr allor a'r deml wedi eu hailgysegru ar ôl eu halogi.

4. Anfonasant neges at bob ardal yn Samaria, Cona, Bethoron, Belmain a Jericho, ac i Choba, Aisora a dyffryn Salem.

5. Wedi meddiannu copaon yr holl fryniau uchel a chadarnhau'r pentrefi oedd arnynt, rhoesant ddigon o fwyd ynghadw ar gyfer rhyfel; newydd orffen medi'r meysydd yr oeddent.

6. Ysgrifennodd Joacim yr archoffeiriad, a oedd yr adeg honno yn Jerwsalem, at drigolion Bethulia a Betomesthaim, lle sy'n wynebu ar Esdraelon, gyferbyn â'r gwastatir ger Dothan.

7. Dywedodd wrthynt am feddiannu bylchau'r mynydd-dir, oherwydd trwyddynt hwy yr oedd cael ffordd i mewn i Jwdea; a chan fod y fynedfa'n rhy gul ar gyfer mwy na dau, gellid yn hawdd rwystro'r fyddin rhag symud ymlaen.

8. Felly y gweithredodd yr Israeliaid yn ôl gorchymyn Joacim yr archoffeiriad a senedd holl bobl Israel, a oedd yn eistedd yn Jerwsalem.

9. Â thaerineb mawr llefodd pob gŵr yn Israel ar Dduw, ac ymddarostwng â thaerineb mawr.

10. Rhoesant sachliain am eu llwynau, hwy a'u gwragedd, eu plant, eu hanifeiliaid, a phob preswylydd estron a gwas cyflog a chaethwas,

11. a syrthiodd pob gŵr o Israeliad a oedd yn byw yn Jerwsalem, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, o flaen y deml; taenasant ludw ar eu pennau a lledu eu sachlieiniau o flaen yr Arglwydd.

12. Ar ôl gwisgo'r allor hefyd â sachliain, gwaeddasant yn daer ag un llais ar Dduw Israel, iddo beidio â gadael i'w babanod gael eu dwyn yn ysbail, i'w gwragedd fynd yn anrhaith, i'w dinasoedd treftadol gael eu difodi a'u teml ei halogi er llawenydd maleisus y Cenhedloedd.

13. Gwrandawodd yr Arglwydd ar eu cri a thosturio wrth eu gorthrymder. Ymroes y bobl yn holl Jwdea a Jerwsalem i ymprydio am lawer o ddyddiau o flaen teml yr Arglwydd Hollalluog.

14. Yr oedd Joacim yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid a safai gerbron yr Arglwydd, a'r rhai oedd yn gweini ar yr Arglwydd, wedi gwregysu eu llwynau â sachlieiniau, ac yn offrymu'r poethoffrwm arferol, yr addunedau a rhoddion gwirfoddol y bobl.

15. Â lludw ar eu penwisg, dalient i lefain â'u holl egni ar i'r Arglwydd ymweld â holl dŷ Israel er daioni.