Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Judith 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cyngor Rhyfel yng Ngwersyll Holoffernes

1. Pan dderbyniodd Holoffernes, prif gadfridog byddin Asyria, y newydd fod yr Israeliaid wedi ymbaratoi at ryfel, eu bod wedi cau bylchau'r mynydd-dir ac wedi cadarnhau holl gopaon yr ucheldir, ac wedi gosod maglau ar y gwastadeddau, aeth yn gynddeiriog.

2. Galwodd ato holl lywodraethwyr Moab, cadfridogion Ammon, a holl benaethiaid yr arfordir,

3. a dweud wrthynt, “Dywedwch wrthyf yn awr, chwi Ganaaneaid, pwy yw'r bobl hyn sy'n trigo yn y mynydd-dir? Ym mha drefi y maent yn preswylio? Beth yw nifer eu byddin? O ble y daw eu grym a'u gallu? Pa frenin sy'n llywodraethu arnynt ac yn arwain eu byddinoedd?

4. Pam y bu iddynt hwy'n unig o holl drigolion y gorllewin wrthod dod i'm cyfarfod?”

Araith Achior ac Ymateb y Dyrfa

5. Atebodd Achior, arweinydd yr holl Ammoniaid, ef: “Gwrandawed f'arglwydd air o enau ei was, ac fe ddywedaf y gwir wrthyt am y bobl hyn, trigolion y mynydd-dir hwn sy'n gyfagos iti: ni ddaw un celwydd allan o enau dy was.

6. Disgynyddion y Caldeaid yw'r bobl hyn;

7. buont yn trigo gynt yn Mesopotamia, am iddynt wrthod dilyn duwiau eu hynafiaid, a fu'n byw yn Caldea.

8. Yr oeddent wedi cefnu ar arferion eu hynafiaid a throi i addoli Duw y Nefoedd, y Duw yr oeddent wedi dod i'w adnabod. Gyrrodd y Caldeaid hwy allan o ŵydd eu duwiau, a ffoesant hwythau i Mesopotamia, lle buont yn trigo am gyfnod hir.

9. Yna galwodd eu Duw arnynt i ymadael â'u trigfa yno a mynd i wlad Canaan. Yno bu iddynt ymgartrefu a chasglu cyfoeth mawr mewn aur, arian ac anifeiliaid lawer.

10. Aethant i lawr i'r Aifft pan ymledodd newyn dros wlad Canaan, a byw yno tra oedd cyflenwad o fwyd iddynt. Ac yno lluosogodd eu nifer gymaint fel na ellid rhifo'u poblogaeth,

11. a throes brenin yr Aifft yn eu herbyn, ac ymddwyn yn ddichellgar atynt drwy beri iddynt lafurio'n galed i wneud priddfeini, a'u darostwng i safle caethweision.

12. Llefasant hwythau ar eu Duw, a thrawodd ef holl wlad yr Aifft â phlâu nad oedd meddyginiaeth iddynt. Gyrrodd yr Eifftiaid hwy allan.

13. A sychodd Duw y Môr Coch o'u blaen,

14. a'u harwain i Fynydd Sinai a Cades-barnea. Bwriasant allan holl drigolion yr anialwch,

15. a thrigasant yng ngwlad yr Amoriaid, gan ddinistrio'n llwyr â'u llu nerthol holl bobl Hesbon. Yna, ar ôl croesi'r Iorddonen a meddiannu'r holl fynydd-dir,

16. gyrasant allan o'u blaen y Canaaneaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, y Sichemiaid a'r holl Gergesiaid, ac ymgartrefu yno am gyfnod maith.

17. Cyhyd ag y peidient â phechu yn erbyn eu Duw, fe fyddai llwyddiant iddynt, gan mai Duw sy'n casáu drygioni yw eu Duw hwy.

18. Felly, pan wyrasant oddi ar y llwybr a osododd ef iddynt, dinistriwyd hwy'n llwyr mewn rhyfeloedd lawer, a'u cludo'n garcharorion i wlad arall. Dymchwelwyd i'r llawr deml eu Duw, a goresgynnwyd eu trefi gan eu gelynion.

19. Bellach troesant yn ôl at eu Duw, daethant i fyny o'r lleoedd y gwasgarwyd hwy iddynt, a meddiannu Jerwsalem, lle mae eu cysegr, ac ymgartrefu yn y mynydd-dir am ei fod yn anghyfannedd.

20. “Yn awr, f'arglwydd feistr, os yw'r bobl hyn yn cyfeiliorni ac yn pechu yn erbyn eu Duw, a ninnau'n dod i wybod iddynt gyflawni'r trosedd hwn, yna awn i fyny i ryfela yn eu herbyn;

21. ond os nad oes yn eu cenedl hwy unrhyw anghyfraith, gad lonydd iddynt, f'arglwydd, rhag ofn i'w Harglwydd a'u Duw eu hamddiffyn, ac i ninnau fynd yn gyff gwawd i'r holl fyd.”

22. Pan orffennodd Achior lefaru'r geiriau hyn, dechreuodd yr holl bobl oedd yn sefyll o amgylch y babell furmur yn ei erbyn; a galwodd swyddogion Holoffernes, a holl drigolion yr arfordir a Moab, am ei dorri'n ddarnau.

23. “Ni ddychrynir ni gan yr Israeliaid,” meddent, “oherwydd pobl ydynt heb na'r gallu na'r grym i ymfyddino'n effeithiol.

24. Awn i fyny felly, f'arglwydd Holoffernes, ac fe'u traflyncir gan dy fyddin fawr di.”