Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Judith 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gweddi Judith

1. Yna syrthiodd Judith ar ei hwyneb, taenellodd ludw ar ei phen, a datgelu'r sachliain a wisgai. Ac ar adeg offrymu'r arogldarth hwyrol yn nhŷ Dduw yn Jerwsalem, galwodd Judith â llais uchel ar yr Arglwydd, a dweud:

2. “O Arglwydd, Duw fy nghyndad Simeon, rhoddaist yn ei law ef gleddyf i ddial ar yr estroniaid hynny a dreisiodd forwyn a'i difwyno; noethasant ei chluniau a'i chywilyddio, a halogi ei chroth a'i gwaradwyddo. Er iti ddweud, ‘Ni chaiff hyn fod’, fe'i gwnaethant.

3. Am hynny, traddodaist eu llywodraethwyr i'w lladd, a thraddodi i'r gwaed eu gwely, a wridai am y ferch a dwyllwyd; trewaist gaethweision ynghyd â'u harglwyddi, a'r arglwyddi ar eu gorseddau.

4. Traddodaist eu gwragedd i'w hysbeilio a'u merched i'w caethgludo, a'u holl anrhaith i'w rhannu rhwng y rhai a geraist, y rhai a fu mor fawr eu sêl drosot, ac a ffieiddiodd y gwaradwydd a fu ar eu gwaed. Galwasant arnat ti am gymorth. O Dduw, fy Nuw, gwrando yn awr arnaf fi, a minnau'n weddw.

5. Oherwydd ti a wnaeth y pethau hynny, a'r pethau a fu o'u blaen a'r pethau a'u dilynodd; ti a fwriadodd yr hyn sy'n digwydd yn awr a'r hyn sydd i ddod.

6. Y mae'r pethau a gynlluniaist ti yma wrth law yn dweud, ‘Dyma ni.’ Oherwydd parod yw dy holl ffyrdd, a rhagwybodaeth sy'n llywio dy farn.

7. Dyma'r Asyriaid wedi cynyddu yn eu nerth, yn ymfalchïo yn eu meirch a'u marchogion, yn ymffrostio yn nerth eu gwŷr traed, yn ymddiried mewn tarian a phicell, mewn bwa a ffon-dafl; ni wyddant mai ti yw'r Arglwydd sy'n rhoi terfyn ar ryfel. Yr Arglwydd yw dy enw.

8. Rhwyga di eu cryfder yn dy nerth, a dryllia eu cadernid yn dy lid. Oherwydd eu bwriad yw halogi dy deml, difwyno'r tabernacl sy'n drigfan i'th enw gogoneddus, a bwrw i lawr â chleddyf gorn dy allor.

9. Edrych ar eu balchder, tywallt dy lid ar eu pennau, a rho i mi sy'n weddw law nerthol i gyflawni fy mwriad.

10. Trwy dwyll fy ngwefusau taro'r caethwas gyda'r tywysog a'r tywysog gyda'i was; dryllia eu balchder trwy law benyw.

11. Oherwydd nid mewn lliaws y mae dy nerth di, na'th allu llywodraethol mewn rhai cedyrn; Duw'r gostyngedig ydwyt, cymorth yr isel, cynhaliwr y gwan, amddiffynnydd y diymadferth a gwaredwr y diobaith.

12. Yn awr, O Dduw fy hynafiaidd, a Duw treftadaeth Israel, llywodraethwr nefoedd a daear, creawdwr y dyfroedd a brenin yr holl greadigaeth, gwrando di fy ngweddi daer,

13. a rho imi eiriau twyllodrus i glwyfo ac anafu'r rhain sydd wedi cynllunio'r fath greulonder yn erbyn dy gyfamod, a'th deml sanctaidd, a Mynydd Seion, a'r tŷ sy'n eiddo dy blant.

14. A rho i bob cenedl o'r eiddot a phob llwyth amgyffrediad i wybod mai ti sydd Dduw, y Duw hollalluog a nerthol, ac nad oes neb arall ond tydi'n amddiffynfa i genedl Israel.”