Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Judith 14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cynllun Judith

1. Dywedodd Judith wrthynt: “Gwrandewch arnaf yn awr, gyfeillion. Cymerwch y pen hwn a'i grogi ar fur uchaf eich amddiffynfa.

2. Pan wawria'r bore, a'r haul yn codi dros y ddaear, cymerwch bawb ohonoch eich arfau rhyfel a mynd, pob gŵr cadarn, allan o'r dref; a rhowch arweinydd arnynt, fel pe baech ar fynd i lawr i'r gwastatir yn erbyn gwersyll yr Asyriaid; ond peidiwch â mynd i lawr.

3. Fe gymer yr Asyriaid eu holl arfwisgoedd, a mynd i'w gwersyll a dihuno cadfridogion byddin Asyria; ac fe redant hwythau fel un gŵr i babell Holoffernes, ond ni ddônt o hyd iddo. Yna fe syrth ofn arnynt, a ffoant rhagoch.

4. Ond dilynwch hwy, chwi a holl drigolion ffiniau Israel, a dinistriwch hwy wrth iddynt ffoi.

5. Ond cyn i chwi wneud hyn, galwch ataf Achior yr Ammoniad, er mwyn iddo gael gweld ac adnabod y gŵr a fychanodd dŷ Israel ac a'i hanfonodd ef atom ni, fel y tybiai, i'w farwolaeth.”

Tröedigaeth Achior

6. Galwasant Achior o dŷ Osias; a phan ddaeth, a gweld pen Holoffernes yn llaw un o wŷr y gynulleidfa, syrthiodd ar ei wyneb fel un heb anadl.

7. Wedi iddynt ei godi, syrthiodd wrth draed Judith ac ymgrymu ger ei bron a dweud, “Bendigedig wyt ti trwy holl bebyll Jwda, ac ym mhob cenedl! Daw ofn dirfawr ar bawb a glywant dy enw.

8. Yn awr, adrodd imi hanes y cwbl a wnaethost yn ystod y dyddiau hyn.” A dyma Judith yn sefyll yng nghanol y bobl ac yn adrodd iddo'r cwbl yr oedd hi wedi ei wneud o'r dydd yr aeth allan hyd y foment yr oedd yn siarad â hwy.

9. Wedi iddi orffen, bloeddiodd y bobl â llais uchel, nes bod sŵn eu llawenydd yn atseinio trwy eu tref.

10. Pan welodd Achior y cwbl a wnaeth Duw Israel, credodd yn frwd yn Nuw; derbyniodd enwaediad a chael ei gorffori yn nhŷ Israel hyd y dydd hwn.

Arswyd yng Ngwersyll Holoffernes

11. Pan wawriodd y bore, crogasant ben Holoffernes ar y mur, a chymerodd pob un ei arfau a mynd allan yn gatrodau i fylchau'r mynydd-dir.

12. Gwelodd yr Asyriaid hwy, ac anfon neges at eu harweinwyr; aethant hwythau at y cadfridogion, capteiniaid y miloedd, a phob swyddog arall.

13. Aethant i babell Holoffernes a dweud wrth yr un a ofalai am ei holl eiddo: “Yn awr, deffro ein harglwydd, oherwydd meiddiodd y caethweision ddod i lawr i ryfela yn ein herbyn, ac felly i gael eu llwyr ddifetha.”

14. Aeth Bagoas i mewn a churo ar borth allanol y babell, am iddo dybio fod Holoffernes yn cysgu gyda Judith.

15. Pan nad atebodd neb, agorodd y porth allanol a mynd i mewn i'w ystafell wely, a'i gael wedi ei daflu i lawr yn gelain ar y trothwy, a'r pen wedi ei ddwyn ymaith.

16. Yna gwaeddodd â llef uchel, ac wylo, galarnadu, bloeddio a rhwygo'i ddillad.

17. Wedyn aeth i'r babell lle'r oedd Judith wedi bod yn aros, ond ni ddaeth o hyd iddi. Llamodd allan at y bobl a gweiddi:

18. “Y mae'r caethweision wedi'n twyllo! Y mae un wraig o blith yr Hebreaid wedi dwyn gwaradwydd ar dŷ'r Brenin Nebuchadnesar. Dyma Holoffernes ar lawr, a'i ben wedi mynd!”

19. Pan glywsant hyn, rhwygodd arweinwyr byddin Asyria eu dillad, a daeth ofn dirfawr arnynt. Bu bloeddio a gweiddi croch trwy'r holl wersyll.