Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Judith 12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Judith yn Glynu'n Ffyddlon wrth ei Chrefydd

1. Yna gorchmynnodd Holoffernes ei harwain hi i mewn i'r ystafell lle'r oedd ei lestri arian, ac arlwyo ger ei bron o'i ddanteithion, ac o'i win iddi ei yfed.

2. Dywedodd Judith, “Nid wyf am fwyta dim ohonynt, rhag ofn bod hynny'n drosedd; ond bydd peth o'r bwyd y deuthum ag ef gyda mi yn ddigon.”

3. Yna dywedodd Holoffernes wrthi, “Ond os palla'r hyn sydd gennyt, o ble y cawn ddim tebyg i'w roi iti? Oherwydd nid oes yn ein plith neb o'th genedl di.”

4. Atebodd Judith, “Cyn wired â'th fod yn fyw, f'arglwydd, ni fyddaf fi, dy gaethferch, wedi dibennu'r hyn sydd gennyf cyn i'r arglwydd drwy fy llaw i gyflawni ei fwriad.”

5. Arweiniodd gweision Holoffernes hi i'r babell, a chysgodd hyd ganol nos; yna cododd tua gwyliadwriaeth y bore.

6. Anfonodd neges at Holoffernes fel hyn: “Os gwêl f'arglwydd yn dda, gorchmynned ganiatáu i'th gaethferch fynd allan i weddïo.”

7. Gorchmynnodd Holoffernes nad oedd ei osgordd i'w rhwystro hi. Arhosodd hi yn y gwersyll am dri diwrnod, a phob nos byddai'n mynd allan i ddyffryn Bethula ac yn ymdrochi wrth y ffynnon ddŵr ger y gwersyll.

8. Wedi dod i fyny o'r dŵr byddai'n deisyf ar Arglwydd Dduw Israel i hyrwyddo'i chynllun i adfer plant ei bobl.

9. Byddai'n dychwelyd wedi ei phuro'i hun, ac yn aros yn y babell nes iddi gymryd pryd o fwyd gyda'r nos.

Gwledd Holoffernes

10. Ar y pedwerydd dydd, gwnaeth Holoffernes wledd i'w gaethweision ei hun, ond nid estynnodd wahoddiad i'r rhai oedd wrth eu dyletswydd.

11. Dywedodd wrth Bagoas, yr eunuch a ofalai am ei holl eiddo, “Dos yn awr a pherswadia'r Hebrëes sydd yn dy ofal i ddod atom i fwyta ac yfed gyda ni.

12. Yn wir byddai'n gywilydd inni pe baem yn caniatáu i'r fath wraig ymadael heb inni ymgyfeillachu â hi; os na allwn ei denu atom, bydd hi'n chwerthin am ein pen.”

13. Aeth Bagoas allan o ŵydd Holoffernes, a mynd at Judith a dweud: “Paid ti, ferch brydferth, â phetruso dod at f'arglwydd i'th anrhydeddu ger ei fron, i yfed gwin gyda ni mewn llawenydd, ac i fod heddiw fel un o ferched yr Asyriaid sy'n gweini yn nhŷ Nebuchadnesar.”

14. Meddai Judith wrtho: “Pwy wyf fi i wrthod f'arglwydd? Popeth fydd wrth ei fodd, fe'i gwnaf yn eiddgar, a hynny fydd fy ngorfoledd hyd ddydd fy marwolaeth.”

15. Cododd, a gwisgo amdani ei dillad gwych a holl addurniadau gwraig, ac aeth ei chaethferch a thaenu iddi ar y llawr o flaen Holoffernes y cnuau yr oedd wedi eu derbyn gan Bagoas at ei gwasanaeth bob dydd, iddi gael gorwedd arnynt i fwyta.

16. Daeth Judith i mewn a gorwedd yn ei lle. Collodd Holoffernes arno'i hun yn ei awydd amdani; cynhyrfwyd ei deimladau yn ei flys angerddol am gydorwedd â hi. Yn wir, o'r dydd cyntaf y gwelodd hi, yr oedd wedi bod yn aros ei gyfle i'w hudo.

17. Dywedodd Holoffernes wrthi, “Yf yn awr, rwy'n erfyn arnat, a bydd lawen gyda ni.”

18. Atebodd Judith: “Yn wir, f'arglwydd, mi yfaf, oherwydd heddiw yw'r diwrnod mwyaf gogoneddus yn fy mywyd er dydd fy ngeni.”

19. Cymerodd y bwyd yr oedd ei llawforwyn wedi ei baratoi, a bwyta ac yfed o'i flaen ef.

20. Llonnwyd Holoffernes ganddi, ac yfodd lawer gormod o win, mwy nag yr yfodd erioed mewn un diwrnod er dydd ei eni ef.