Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gwaredigaeth Seion Gerllaw

1. Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion;ymwisga yn dy ddillad godidog,O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd;oherwydd ni ddaw i mewn iti mwyachneb dienwaededig nac aflan.

2. Cod, ymysgwyd o'r llwch, ti Jerwsalem gaeth;tyn y rhwymau oddi ar dy war, ti gaethferch Seion.

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Gwerthwyd chwi am ddim,ac fe'ch gwaredir heb arian.”

4. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw:“Yn y dechrau, i'r Aifft yr aeth fy mhobl i ymdeithio,ac yna bu Asyria'n eu gormesu'n ddiachos.

5. Ond yn awr, beth a gaf yma?” medd yr ARGLWYDD.“Y mae fy mhobl wedi eu dwyn ymaith am ddim,eu gorthrymwyr yn llawn ymffrost,” medd yr ARGLWYDD,“a'm henw'n cael ei ddilorni o hyd,drwy'r dydd.

6. Am hynny, fe gaiff fy mhobl adnabod fy enw;y dydd hwnnw cânt wybodmai myfi yw Duw, sy'n dweud, ‘Dyma fi.’ ”

7. Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesyddsy'n cyhoeddi heddwch, yn datgan daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth;sy'n dweud wrth Seion, “Dy Dduw sy'n teyrnasu.”

8. Clyw, y mae dy wylwyr yn codi eu llaisac yn bloeddio'n llawen gyda'i gilydd;â'u llygaid eu hunain y gwelantyr ARGLWYDD yn dychwelyd i Seion.

9. Bloeddiwch, cydganwch, chwi adfeilion Jerwsalem,oherwydd tosturiodd yr ARGLWYDD wrth ei bobl,a gwaredodd Jerwsalem.

10. Dinoethodd yr ARGLWYDD ei fraich sanctaiddyng ngŵydd yr holl genhedloedd,ac fe wêl holl gyrrau'r ddaeariachawdwriaeth ein Duw ni.

11. Allan! Allan! Ymaith â chwi!Peidiwch â chyffwrdd â dim aflan.Ewch allan o'i chanol, glanhewch eich hunain,chwi sy'n cludo llestri'r ARGLWYDD.

12. Nid ar ffrwst yr ewch allan,ac nid fel ffoaduriaid y byddwch yn ymadael,oherwydd bydd yr ARGLWYDD ar y blaen,a Duw Israel y tu cefn i chwi.

Y Gwas Dioddefus

13. Yn awr, bydd fy ngwas yn llwyddo;fe'i codir, a'i ddyrchafu, a bydd yn uchel iawn.

14. Ar y pryd roedd llawer yn synnu ato—roedd ei wedd yn rhy hagr i ddyn,a'i bryd yn hyllach na neb dynol,

15. a phobloedd lawer yn troi i ffwrdd rhag ei weld,a brenhinoedd yn fud o'i blegid.Ond byddant yn gweld peth nas eglurwyd iddynt,ac yn deall yr hyn na chlywsant amdano.