Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cangen o Jesse

1. O'r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn,ac fe dyf cangen o'i wraidd ef;

2. bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno,yn ysbryd doethineb a deall,yn ysbryd cyngor a grym,yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD;

3. ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD.Nid wrth yr hyn a wêl y barna,ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna,

4. ond fe farna'r tlawd yn gyfiawna dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear.Fe dery'r ddaear â gwialen ei enau,ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.

5. Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynaua ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol.

6. Fe drig y blaidd gyda'r oen,fe orwedd y llewpard gyda'r myn;bydd y llo a'r llew yn cydbori,a bachgen bychan yn eu harwain.

7. Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth,a'u llydnod yn cydorwedd;bydd y llew yn bwyta gwair fel ych.

8. Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb,a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber.

9. Ni wnânt ddrwg na difrodyn fy holl fynydd sanctaidd,canys fel y lleinw'r dyfroedd y môr i'w ymylon,felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.

10. Ac yn y dydd hwnnwbydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd;bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef,a bydd ei drigfan yn ogoneddus.

11. Ac yn y dydd hwnnwfe estyn yr ARGLWYDD ei law drachefni adennill gweddill ei bobla adewir, o Asyria a'r Aifft,o Pathros ac Ethiopia ac Elam,o Sinar a Hamath ac o ynysoedd y môr.

12. Fe gyfyd faner i'r cenhedloedd,a chasglu alltudion Israel;fe gynnull rai gwasgar Jwdao bedwar ban y byd.

13. Diflanna cenfigen Effraim,a thorrir ymaith elynion Jwda.Ni chenfigenna Effraim wrth Jwda,ac ni fydd Jwda'n gwrthwynebu Effraim.

14. Ond disgynnant ar lethrau'r Philistiaid yn y gorllewin,ac ynghyd fe ysbeiliant y dwyreinwyr;bydd Edom a Moab o fewn eu gafael,a phlant Ammon yn ufudd iddynt.

15. Gwna'r ARGLWYDD yn sychdirdafod môr yr Aifft;chwifia'i law dros yr Ewffrates,ac â'i wynt deifiolfe'i hollta yn saith o ffrydiau,i'w throedio yn droetsych.

16. A bydd priffordd i weddill ei bobl,i'r gweddill a adewir o Asyria,megis y bu i Israelpan ddaeth i fyny o wlad yr Aifft.