Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gwaeledd Heseceia

1. Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trefna dy dŷ, oherwydd rwyt ar fin marw; ni fyddi fyw.’ ”

2. Troes Heseceia ei wyneb at y pared a gweddïo ar yr ARGLWYDD,

3. a dweud, “O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di â chywirdeb a chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg.” Ac fe wylodd Heseceia'n chwerw.

4. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Eseia a dweud,

5. “Dos, dywed wrth Heseceia, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau.

6. A gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon.

7. Dyma arwydd i ti oddi wrth yr ARGLWYDD, y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr hyn a ddywedodd.

8. Edrych, yr wyf yn peri i'r cysgod deflir ar risiau Ahas gan yr haul fynd yn ei ôl ddeg o risiau.’ ” Ac aeth yr haul yn ei ôl ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi mynd i lawr drostynt.

9. Cerdd Heseceia brenin Jwda, pan fu'n glaf ac yna gwella o'i glefyd:

10. Dywedais, “Yn anterth fy nyddiau rhaid i mi fynd,a chael fy symud i byrth y bedd weddill fy mlynyddoedd”;

11. dywedais, “Ni chaf weld yr ARGLWYDDyn nhir y rhai byw,ac ni chaf edrych eto ar neb o drigolion y byd.

12. Dygwyd fy nhrigfan oddi arnafa'i symud i ffwrdd fel pabell bugail;fel gwehydd rwy'n dirwyn fy nyddiau i ben,i'w torri ymaith o'r gwŷdd.O fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.

13. O fel rwy'n dyheu am y bore!Maluriwyd fy esgyrn fel gan lew;o fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.

14. Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith,rwy'n cwynfan fel colomen.Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny;O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof.”

15. Beth allaf fi ei ddweud?Llefarodd ef wrthyf ac fe'i gwnaeth.Ciliodd fy nghwsg i gyd,am ei bod mor chwerw arnaf.

16. ARGLWYDD, trwy'r pethau hyn y bydd rhywun fyw,ac yn yr holl bethau hyn y mae hoen fy ysbryd.Adfer fi, gwna i mi fyw.

17. Wele, er lles y bu'r holl chwerwder hwn i mi;yn dy gariad dygaist fi o bwll distryw,a thaflu fy holl bechodau y tu ôl i'th gefn.

18. Canys ni fydd y bedd yn diolch i ti,nac angau yn dy glodfori;ni all y rhai sydd wedi disgyn i'r pwllobeithio am dy ffyddlondeb.

19. Ond y byw, y byw yn unig fydd yn diolch i ti,fel y gwnaf finnau heddiw;gwna tad i'w blant wybod am dy ffyddlondeb.

20. Yr ARGLWYDD a'm gwared i;am hynny canwn â'n hofferynnau llinynnolholl ddyddiau ein bywydyn nhŷ'r ARGLWYDD.

21. Yr oedd Eseia wedi dweud, “Gadewch iddynt gymryd swp o ffigys, a'i osod ar y cornwyd, ac fe fydd byw.”

22. A dywedodd Heseceia, “Beth yw'r prawf y caf fynd i fyny i dŷ'r ARGLWYDD?”