Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Addo Gwaredigaeth i Jerwsalem

1. Pan glywodd y Brenin Heseceia yr hanes, rhwygodd yntau ei ddillad a rhoi sachliain amdano a mynd i dŷ'r ARGLWYDD,

2. ac anfon Eliacim arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a'r rhai hynaf o'r offeiriaid, i gyd mewn sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos,

3. i ddweud wrtho, “Fel hyn y dywed Heseceia: ‘Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor arnynt.

4. O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, a hefyd yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Dos i weddi dros y gweddill sydd ar ôl.’ ”

5. Pan ddaeth gweision y Brenin Heseceia at Eseia,

6. dywedodd Eseia wrthynt, “Dywedwch wrth eich meistr, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu.

7. Edrych, rwy'n rhoi ysbryd ynddo, ac fe glyw si fydd yn peri iddo ddychwelyd i'w wlad; hefyd, gwnaf iddo syrthio gan y cleddyf yn y wlad honno.’ ”

8. Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna.

9. Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia a dweud,

10. “Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw, yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.

11. Y mae'n siŵr dy fod wedi clywed am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, a'u bod wedi eu difrodi; a gei di dy arbed?

12. A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy—y cenhedloedd a ddinistriodd fy hynafiaid, fel Gosan a Haran a Reseff, a pobl Eden a drigai yn Telassar?

13. Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lahir, Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”

Gweddi Heseceia

14. Cymerodd Heseceia'r neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD,

15. a gweddïo fel hyn:

16. “O ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; tydi a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.

17. O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw; O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl; gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw.

18. Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r holl genhedloedd a'r gwledydd,

19. a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, eithr gwaith dwylo dynol, o goed a charreg.

20. Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael ef, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yw'r ARGLWYDD, tydi yn unig.”

Neges Eseia

21. Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Oherwydd i ti weddïo arnaf ynghylch Senacherib brenin Asyria,

22. dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn ef:“ ‘Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu,yn chwerthin am dy ben;y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy ôl.

23. Pwy wyt ti yn ei ddifenwi ac yn ei gablu?Yn erbyn pwy yr wyt yn codi dy lais?Yr wyt yn gwneud ystum dirmygusyn erbyn Sanct Israel.

24. Trwy dy weision fe geblaist yr ARGLWYDD, a dweud,“Gyda lliaws fy ngherbydaudringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd,i bellterau Lebanon;torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd;euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog;

25. cloddiais ffynhonnau ac yfed eu dyfroedd;â gwadn fy nhroed sychais holl ffrydiau'r Neil.”

26. “ ‘Oni chlywaist i mi wneud hyn erstalwm,ac i mi lunio hyn yn y dyddiau gynt?Bellach rwy'n ei ddwyn i ben;bydd dinasoedd caerog yn syrthioyn garneddau wedi eu dinistrio;

27. bydd y trigolion, a'u nerth yn pallu,yn ddigalon ac mewn gwarth,fel gwellt y maes, llysiau gwyrdda glaswellt pen towedi eu deifio gan wynt y dwyrain.’

28. ‘Rwy'n gwybod pryd yr wyt yn codi ac yn eistedd,yn mynd allan ac yn dod i mewn,a'r modd yr wyt yn cynddeiriogi yn f'erbyn.

29. Oherwydd dy fod yn gynddeiriog yn f'erbyn,a bod sŵn dy draha yn fy nghlustiau,fe osodaf fy mach yn dy ffroena'm ffrwyn yn dy weflau,a'th yrru'n ôl ar hyd y ffordd y daethost.’

30. “Bydd hyn yn arwydd i ti, Heseceia. Eleni bwyteir yr hyn sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ac yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwinllannoedd hefyd a bwyta'u ffrwyth.

31. Bydd y dihangol a adewir yn nhŷ Jwda yn gwreiddio at i lawr ac yn ffrwytho at i fyny;

32. oherwydd allan o Jerwsalem fe ddaw gweddill, a rhai dihangol allan o Fynydd Seion. Sêl ARGLWYDD y Lluoedd a wna hyn.

33. “Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am frenin Asyria:“ ‘Ni ddaw ef i mewn i'r ddinas hon,nac anfon saeth i mewn iddi;nid ymosoda arni â tharian,na chodi clawdd yn ei herbyn.

34. Ar hyd y ffordd y daeth fe ddychwel,ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon,’ medd yr ARGLWYDD.

35. ‘Amddiffynnaf y ddinas hon i'w gwaredu,er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.’ ”

36. Yna aeth angel yr ARGLWYDD i wersyll yr Asyriaid a tharo i lawr gant wyth deg a phump o filoedd; pan ddaeth y bore, cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon.

37. Yna aeth Senacherib brenin Asyria i ffwrdd a dychwelyd i Ninefe ac aros yno.

38. Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adrammelech a Sareser a'i ladd â'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.