Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Barn ar y Cenhedloedd

1. Nesewch i wrando, chwi genhedloedd;clywch, chwi bobloedd.Gwrandawed y ddaear a'i llawnder,y byd a'i holl gynnyrch.

2. Canys y mae dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr holl bobl,a'i lid ar eu holl luoedd;difroda hwy a'u rhoi i'w lladd.

3. Bwrir allan eu lladdedigion,cyfyd drewdod o'u celanedd,a throchir y mynyddoedd â'u gwaed.

4. Malurir holl lu'r nefoedd,plygir yr wybren fel sgrôl,a chwymp ei holl lu,fel cwympo dail oddi ar winwyddena ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren.

5. Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef;wele, fe ddisgyn ar Edom,ar y bobl a ddedfryda i farn.

6. Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyfwedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster,ar waed ŵyn a bychod a braster arennau hyrddod.Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra,a lladdfa fawr yn nhir Edom.

7. Daw ychen gwyllt i lawr gyda hwy,a bustych gyda theirw;mwydir eu tir gan waed,a bydd eu pridd yn doreithiog gan y braster.

8. Canys y mae gan yr ARGLWYDD ddydd dial,a chan amddiffynnydd Seion flwyddyn talu'r pwyth.

9. Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan;bydd ei gwlad yn byg yn llosgi;

10. nis diffoddir na nos na dydd,a bydd ei mwg yn esgyn am byth.O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith,ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto.

11. Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn,a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno;bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn,a phlymen tryblith dros ei dewrion.

12. Fe'i gelwir yn lle heb deyrn,a bydd ei holl dywysogion yn ddiddim.

13. Bydd drain yn tyfu yn ei phalasau,danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd;bydd yn drigfan i fleiddiaid,yn gyrchfan i estrys.

14. Bydd yr anifeiliaid gwyllt a'r siacal yn cydgrynhoi,a'r bwchgafr yn galw ar ei gymar;yno hefyd y clwyda'r frân nosac y daw o hyd i'w gorffwysfa.

15. Yno y nytha'r dylluan,a dodwy ei hwyau a'u deor,a chasglu ei chywion dan ei hadain;yno hefyd y bydd y barcutiaid yn ymgasglu,pob un gyda'i gymar.

16. Chwiliwch yn llyfr yr ARGLWYDD,darllenwch ef;ni chollir dim un o'r rhain,ni fydd un ohonynt heb ei gymar;canys genau'r ARGLWYDD a orchmynnodd,a'i ysbryd ef a'u casglodd ynghyd.

17. Ef hefyd a drefnodd eu cyfran,a'i law a rannodd iddynt â llinyn mesur;cânt ei meddiannu hyd byth,a phreswylio ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.