Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pwy a gredai'r hyn a glywsom?I bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD?

2. Fe dyfodd o'i flaen fel blaguryn,ac fel gwreiddyn mewn tir sych;nid oedd na phryd na thegwch iddo,na harddwch i'w hoffi wrth inni ei weld.

3. Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill,yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur;yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho,yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu.

4. Eto, ein dolur ni a gymerodd,a'n gwaeledd ni a ddygodd—a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfoa'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng.

5. Ond archollwyd ef am ein troseddau ni,a'i ddryllio am ein camweddau ni;roedd pris ein heddwch ni arno ef,a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.

6. Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid,pob un yn troi i'w ffordd ei hun;a rhoes yr ARGLWYDD arno efein beiau ni i gyd.

7. Fe'i gorthrymwyd a'i ddarostwng,ond nid agorai ei enau;arweiniwyd ef fel oen i'r lladdfa,ac fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw'r cneifiwr,felly nid agorai yntau ei enau.

8. Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu—pwy oedd yn malio am ei dynged?Fe'i torrwyd o dir y rhai byw,a'i daro am drosedd fy mhobl.

9. Rhoddwyd iddo fedd gyda'r rhai drygionus,a beddrod gyda'r troseddwyr,er na wnaethai niwed i nebac nad oedd twyll yn ei enau.

10. Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllioa gwneud iddo ddioddef.Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod,fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau,ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef.

11. Wedi helbulon ei fywyd fe wêl oleuni,a chael ei fodloni yn ei wybodaeth;bydd fy ngwas yn cyfiawnhau llawer,ac yn dwyn eu camweddau.

12. Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrionac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn,oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth,a chael ei gyfrif gyda throseddwyr,a dwyn pechodau llaweroedd,ac eiriol dros y troseddwyr.