Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae ateb llednais yn dofi dig,ond gair garw yn cynnau llid.

2. Y mae tafod y doeth yn clodfori deall,ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb.

3. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man,yn gwylio'r drwg a'r da.

4. Y mae tafod tyner yn bren bywiol,ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd.

5. Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad,ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.

6. Y mae llawer o gyfoeth yn nhŷ'r cyfiawn,ond trallod sydd yn enillion y drygionus.

7. Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth,ond nid felly feddwl y ffyliaid.

8. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus,ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.

9. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus,ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.

10. Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd,a bydd y sawl sy'n casáu cerydd yn trengi.

11. Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD;pa faint mwy feddyliau pobl?

12. Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd;nid yw'n cyfeillachu â'r doethion.

13. Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb,ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.

14. Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth,ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.

15. I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus,ond y mae calon hapus yn wledd wastadol.

16. Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDDna chyfoeth mawr a thrallod gydag ef.

17. Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad,nag ych pasgedig a chasineb gydag ef.

18. Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen,ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.

19. Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri,ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.

20. Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad,ond y mae'r ffôl yn dilorni ei fam.

21. Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr,ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union.

22. Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori,ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr.

23. Caiff rhywun foddhad pan fydd ganddo ateb,a beth sy'n well na gair yn ei bryd?

24. Y mae ffordd y bywyd yn dyrchafu'r deallus,i'w droi oddi wrth Sheol isod.

25. Y mae'r ARGLWYDD yn dymchwel tŷ'r balch,ond yn diogelu terfynau'r weddw.

26. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw bwriadau drwg,ond y mae geiriau pur yn hyfrydwch iddo.

27. Y mae'r un sy'n awchu am elw yn creu anghydfod yn ei dŷ,ond y sawl sy'n casáu cildwrn yn cael bywyd.

28. Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb,ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg.

29. Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus,ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn.

30. Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon,a newydd da yn adfywio'r corff.

31. Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywydyn aros yng nghwmni'r doeth.

32. Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gasáu ei hun,ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall.

33. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb,a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.