1. Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, a gofnodwyd gan wŷr Heseceia brenin Jwda:
2. Gogoniant Duw yw cadw pethau'n guddiedig,a gogoniant brenhinoedd yw eu chwilio allan.
3. Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn,felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd.
4. Symud yr amhuredd o'r arian,a daw'n llestr yn llaw'r gof.
5. Symud y drygionus o ŵydd y brenin,a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder.
6. Paid ag ymddyrchafu yng ngŵydd y brenin,na sefyll yn lle'r mawrion,
7. oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny,na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig.
8. Paid â brysio i wneud achos o'r hyn a welaist,rhag, wedi iti orffen gwneud hynny,i'th gymydog ddwyn gwarth arnat.
9. Dadlau dy achos â'th gymydog,ond paid â dadlennu cyfrinach rhywun arall,
10. rhag iddo dy sarhau pan glyw,a thithau'n methu galw dy annoethineb yn ôl.
11. Fel afalau aur ar addurniadau o arian,felly y mae gair a leferir yn ei bryd.
12. Fel modrwy aur neu addurn o aur gwerthfawr,felly y mae cerydd y doeth i glust sy'n gwrando.
13. Fel oerni eira yn amser cynhaeaf,felly y mae negesydd ffyddlon i'r rhai sy'n ei anfon;y mae'n adfywio ysbryd ei feistri.
14. Fel cymylau a gwynt, na roddant law,felly y mae'r un sy'n brolio rhodd heb ei rhoi.
15. Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr,a gall tafod tyner dorri asgwrn.
16. Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat,rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny.
17. Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog,rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu.
18. Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw,felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog.
19. Fel dant drwg, neu droed yn llithro,felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.
20. Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer,neu roi finegr ar friw,felly y mae canu caneuon i galon drist.
21. Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta,ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed;
22. byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben,ac fe dâl yr ARGLWYDD iti.
23. Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,a thafod enllibus yn dod â chilwg.
24. Y mae'n well byw mewn congl ar ben tŷna rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
25. Fel dŵr oer i lwnc sychedig,felly y mae newydd da o wlad bell.
26. Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru,felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus.
27. Nid yw'n dda bwyta gormod o fêl,a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth.
28. Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur,felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.