Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Doniau Doethineb

1. Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad,ac ystyriwch i chwi ddysgu deall.

2. Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da;peidiwch â gwrthod fy nysgeidiaeth.

3. Bûm innau hefyd yn fab i'm tad,yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam.

4. Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf,“Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau;cadw fy ngorchmynion iti gael byw.

5. Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau.Cais ddoethineb, cais ddeall;

6. paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw;câr hi, a bydd yn d'amddiffyn.

7. Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb;â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall.

8. Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi;fe'th anrhydedda, os cofleidi hi.

9. Gesyd dorch brydferth ar dy ben,a rhoi coron anrhydedd iti.”

10. Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau,ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.

11. Hyfforddais di yn ffordd doethineb;dysgais iti gerdded llwybrau union.

12. Pan gerddi, ni rwystrir dy gam,a phan redi, ni fyddi'n baglu.

13. Glŷn wrth addysg, a hynny'n ddiollwng;dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.

14. Paid â dilyn llwybr y drygionus,na cherdded ffordd pobl ddrwg;

15. gochel hi, paid â'i throedio,tro oddi wrthi a dos yn dy flaen.

16. Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg;collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun.

17. Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll,ac yn yfed gwin gormes.

18. Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr,sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd.

19. Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew;ni wyddant beth sy'n eu baglu.

20. Fy mab, rho sylw i'm geiriau,a gwrando ar fy ymadrodd.

21. Paid â'u gollwng o'th olwg;cadw hwy yn dy feddwl;

22. oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael,ac yn iechyd i'w holl gorff.

23. Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl,oherwydd oddi yno y tardd bywyd.

24. Gofala osgoi geiriau twyllodrus,a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar.

25. Cadw dy lygaid yn unionsyth,ac edrych yn syth o'th flaen.

26. Rho sylw i lwybr dy droed,i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel.

27. Paid â throi i'r dde nac i'r chwith,a chadw dy droed rhag y drwg.