1. Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond pwysau cywir wrth ei fodd.
2. Yn dilyn balchder fe ddaw amarch,ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb.
3. Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn,ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr.
4. Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter,ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau.
5. Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union,ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni.
6. Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn,ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr.
7. Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith,a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth.
8. Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd,ond fe â'r drygionus dros ei ben iddo.
9. Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog â'i eiriau,ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall.
10. Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn,a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus.
11. Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn,ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus.
12. Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog,ond cadw'n dawel a wna'r deallus.
13. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach,ond y mae'r teyrngar yn ei chadw.
14. Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl,ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr.
15. Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn,ond y mae'r un sy'n casáu mechnïaeth yn ddiogel.
16. Y mae gwraig raslon yn cael clod,ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth.
17. Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog,ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon.
18. Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus,ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg.
19. I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd,ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth.
20. Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd.
21. Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb,ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd.
22. Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch,felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr.
23. Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn,ond diflanna gobaith y drygionus.
24. Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth,ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen.
25. Llwydda'r un a wasgar fendithion,a diwellir yr un a ddiwalla eraill.
26. Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni ŷd,ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu.
27. Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr,ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn.
28. Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth,ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd.
29. Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt,a bydd y ffôl yn was i'r doeth.
30. Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd,ond y mae trais yn difa bywydau.
31. Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear,pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?