Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r un sy'n cadw ar wahân yn ceisio cweryl,ac yn ymosod ar bob cynllun.

2. Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall,dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun.

3. Yn dilyn drygioni fe ddaw dirmyg,a gwarth ar ôl amarch.

4. Y mae geiriau yn ddyfroedd dyfnion,yn ffrwd yn byrlymu, yn ffynnon doethineb.

5. Nid da yw dangos ffafr tuag at y drygionus,i amddifadu'r cyfiawn o farn.

6. Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen,a'i eiriau yn gofyn am gurfa.

7. Genau'r ynfyd yw ei ddinistr,ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun.

8. Y mae geiriau'r straegar fel danteithionsy'n mynd i lawr i'r cylla.

9. Y mae'r diog yn ei waithyn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr.

10. Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn;rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.

11. Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun.

12. Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch,ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd.

13. Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrandoyn dangos ffolineb ac amarch.

14. Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd,ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd?

15. Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth,a chlust y doeth yn chwilio am ddeall.

16. Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo,ac yn ei arwain at y mawrion.

17. Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn,nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi.

18. Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon,ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn.

19. Y mae brawd a dramgwyddwyd fel caer gadarn,a chwerylon fel bollt castell.

20. O ffrwyth ei enau y digonir cylla pob un,a chynnyrch ei wefusau sy'n ei ddiwallu.

21. Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd,ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth.

22. Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioniac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD.

23. Y mae'r tlawd yn siarad yn ymbilgar,ond y cyfoethog yn ateb yn arw.

24. Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai;ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.