Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pobl biau trefnu eu meddyliau,ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw ateb y tafod.

2. Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun,ond y mae'r ARGLWYDD yn pwyso'r cymhellion.

3. Cyflwyna dy weithredoedd i'r ARGLWYDD,a chyflawnir dy gynlluniau.

4. Gwnaeth yr ARGLWYDD bob peth i bwrpas,hyd yn oed y drygionus ar gyfer dydd adfyd.

5. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw pob un balch;y mae'n sicr na chaiff osgoi cosb.

6. Trwy deyrngarwch a ffyddlondeb y maddeuir camwedd,a thrwy ofn yr ARGLWYDD y troir oddi wrth ddrwg.

7. Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun,gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef.

8. Gwell ychydig gyda chyfiawndernag enillion mawr heb farn.

9. Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd,ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre.

10. Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin;nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder.

11. Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn;a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.

12. Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg,oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd.

13. Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn,a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn.

14. Y mae llid brenin yn gennad angau,ond fe'i dofir gan yr un doeth.

15. Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd,ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.

16. Gwell nag aur yw ennill doethineb,a gwell dewis deall nag arian.

17. Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni,a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd.

18. Daw balchder o flaen dinistr,ac ymffrost o flaen cwymp.

19. Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenusna rhannu ysbail gyda'r balch.

20. Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo,a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd.

21. Y doeth o galon a ystyrir yn ddeallus,a geiriau deniadol sy'n ychwanegu dysg.

22. Y mae deall yn ffynnon bywyd i'w berchennog,ond ffolineb yn ddisgyblaeth i ffyliaid.

23. Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus,ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion.

24. Y mae geiriau teg fel diliau mêl,yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff.

25. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,ond sy'n arwain i farwolaeth.

26. Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio,a'i enau sy'n ei annog ymlaen.

27. Y mae dihiryn yn cynllunio drwg;y mae fel tân poeth ar ei wefusau.

28. Y mae rhywun croes yn creu cynnen,a'r straegar yn gwahanu cyfeillion.

29. Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill,ac yn ei arwain ar ffordd wael.

30. Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster,a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni.

31. Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd;fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn.

32. Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr,a rheoli tymer na chipio dinas.

33. Er bwrw'r coelbren i'r arffed,oddi wrth yr ARGLWYDD y daw pob dyfarniad.