Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid â chenfigennu wrth bobl ddrwg,na dymuno bod yn eu cwmni;

2. oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais,a'u genau'n sôn am drybini.

3. Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb,a'i sicrhau trwy wybodaeth.

4. Trwy ddeall y llenwir ystafelloeddâ phob eiddo gwerthfawr a dymunol.

5. Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf,a'r un deallus na'r un nerthol;

6. oherwydd gelli drefnu dy frwydr â medrusrwydd,a chael buddugoliaeth â llawer o gynghorwyr.

7. Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;nid yw'n agor ei geg yn y porth.

8. Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwgyn cael ei alw yn ddichellgar.

9. Y mae dichell y ffŵl yn bechod,ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr.

10. Os torri dy galon yn nydd cyfyngder,yna y mae dy nerth yn wan.

11. Achub y rhai a ddygir i farwolaeth;rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd.

12. Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”,onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall?Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod,ac yn talu i bob un yn ôl ei waith.

13. Fy mab, bwyta fêl, oherwydd y mae'n dda,ac y mae diliau mêl yn felys i'th enau.

14. Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd;os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol,ac ni thorrir ymaith dy obaith.

15. Paid â llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn,a phaid ag ymosod ar ei gartref.

16. Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd;ond fe feglir y drygionus gan adfyd.

17. Paid â llawenhau pan syrth dy elyn,nac ymfalchïo pan feglir ef,

18. rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon,a throi ei ddig oddi wrtho.

19. Na fydd ddig wrth y rhai drygionus,na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.

20. Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg,a diffoddir goleuni'r drygionus.

21. Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin;paid â bod yn anufudd iddynt,

22. oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt,a phwy a ŵyr y distryw a achosant ill dau?

Rhagor o Eiriau'r Doethion

23. Dyma hefyd eiriau'r doethion:Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn.

24. Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, “Yr wyt yn ddieuog”,fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd.

25. Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad,a daw gwir fendith arnynt.

26. Y mae rhoi ateb gonestfel rhoi cusan ar wefusau.

27. Rho drefn ar dy waith y tu allan,a threfna'r hyn sydd yn dy gae,ac yna adeilada dy dŷ.

28. Paid â thystio yn erbyn dy gymydog yn ddiachos,na thwyllo â'th eiriau.

29. Paid â dweud, “Gwnaf iddo fel y gwnaeth ef i mi;talaf iddo yn ôl ei weithred.”

30. Euthum heibio i faes un diog,ac i winllan un disynnwyr,

31. a sylwais eu bod yn llawn drain,a danadl drostynt i gyd,a'u mur o gerrig wedi ei chwalu.

32. Edrychais arnynt ac ystyried;sylwais a dysgu gwers:

33. ychydig gwsg, ychydig hepian,ychydig blethu dwylo i orffwys,

34. a daw tlodi atat fel dieithryn creulon,ac angen fel gŵr arfog.