Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddŵr;fe'i try i ble bynnag y dymuna.

2. Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun,ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.

3. Y mae gwneud cyfiawnder a barnyn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth.

4. Llygaid balch a chalon ymffrostgar,dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod.

5. Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd,ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.

6. Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwyddfel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth.

7. Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais,am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.

8. Troellog yw ffordd y troseddwr,ond uniawn yw gweithred y didwyll.

9. Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷna rhannu cartref gyda gwraig gecrus.

10. Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg;nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.

11. Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth;ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.

12. Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar dŷ'r drygionus;y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.

13. Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd,ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.

14. Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.

15. Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder,ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.

16. Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deallyn gorffwys yng nghwmni'r meirw.

17. Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser,ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.

18. Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn,a'r twyllwr dros y rhai uniawn.

19. Gwell byw mewn anialwchna chyda gwraig gecrus a dicllon.

20. Yn nhŷ'r doeth y mae trysor dymunol ac olew,ond y mae'r ffôl yn eu difa.

21. Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwchyn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.

22. Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarna bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.

23. Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod,fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.

24. Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw,gweithreda yn gwbl drahaus.

25. Y mae blys y diog yn ei ladd,am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.

26. Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser,ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.

27. Ffiaidd yw aberth y drygionus,yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.

28. Difethir y tyst celwyddog,ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.

29. Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb,ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.

30. Nid yw doethineb na deall na chyngoryn ddim o flaen yr ARGLWYDD.

31. Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr,eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.