Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15

Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Simon yn Cyhuddo Onias

1. Yr oedd y Simon y cyfeiriwyd ato uchod, hwnnw oedd wedi gwneud yr honiadau ynghylch yr arian er niwed i'w famwlad, wedi dechrau athrodi Onias, gan ddweud mai ef oedd wedi cyffroi Heliodorus ac achosi'r helyntion;

2. a beiddiodd ddweud fod hwn, cymwynaswr y ddinas, gwarcheidwad ei gyd-Iddewon a phleidiwr selog y cyfreithiau, yn cynllwynio yn erbyn y llywodraeth.

3. Aeth yr elyniaeth ar gynnydd hyd at gyflawni llofruddiaethau gan un o wŷr profedig Simon.

4. Gwelodd Onias fod y gynnen yn beryglus, a bod Apolonius fab Menestheus, llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, yn cefnogi anfadwaith Simon.

5. Gan hynny, aeth at y brenin, nid fel un yn cyhuddo'i gyd-ddinasyddion, ond fel un â'i olwg ar fudd ei holl bobl, yn gymdeithas ac yn unigolion.

6. Oherwydd, heb arweiniad gan y brenin, fe welai na cheid byth fywyd cyhoeddus heddychol, nac unrhyw ball ar ffolineb Simon.

Jason yn Hyrwyddo Ffordd Helenistaidd o Fyw

7. Wedi i Selewcus ymadael â'r fuchedd hon ac i Antiochus, a gyfenwid Epiffanes, ei olynu yn y frenhiniaeth, enillodd Jason, brawd Onias, yr archoffeiriadaeth trwy lwgrwobrwyaeth.

8. Mewn cyfarfod â'r brenin addawodd iddo dri chant chwe deg o dalentau o arian, a phedwar ugain talent allan o ryw ffynhonnell arall.

9. Heblaw hynny, ymrwymodd, pe caniateid iddo sefydlu dan ei awdurdod ei hun gampfa ac ysgol hyfforddi llanciau, i dalu can talent a hanner yn ychwanegol ac i lunio cofrestr o Antiochiaid yn Jerwsalem.

10. Wedi i'r brenin roi ei ganiatâd, meddiannodd Jason ei swydd ac yn ddiymdroi gwnaeth i'w gydwladwyr droi i'r ffordd Helenistaidd o fyw.

11. Dirymodd y breintiau elusennol a roddwyd i'r Iddewon gan y brenhinoedd trwy waith Ioan, tad yr Ewpolemus hwnnw a aeth yn llysgennad i wneud cytundeb o gyfeillgarwch a chynghrair â'r Rhufeiniaid. Diddymodd y sefydliadau cyfreithlon a chreu arferion newydd anghyfreithlon.

12. Oherwydd gwelodd yn dda sefydlu campfa wrth droed caer y ddinas, a gwneud i'r goreuon o'r llanciau wisgo het athletwyr.

13. O achos anfadwaith diatal y ffug-archoffeiriad annuwiol Jason, cyrhaeddodd Helenistiaeth a'r cynnydd mewn arferion estron y fath bwynt

14. fel y collodd yr offeiriaid eu sêl ynglŷn â gwasanaethau'r allor; aethant yn ddirmygus o'r deml ac yn ddi-hid am yr aberthau, ac ar sain y gong rhuthrent i gymryd rhan yn ymarferion anghyfreithlon yr ysgol ymgodymu.

15. Nid oedd y breintiau traddodiadol yn ddim yn eu golwg; yr anrhydeddau Helenistaidd oedd ardderchocaf yn eu tyb hwy.

16. Oherwydd hynny adfyd fu eu rhan, a chawsant fod yr union bobl y ceisient efelychu eu ffyrdd, ac y dymunent ymdebygu iddynt ym mhob peth, yn elynion dialgar.

17. Oherwydd nid peth dibwys yw amharchu cyfreithiau Duw, fel y dengys y cyfnod dilynol yn amlwg.

Jerwsalem dan Ddylanwad Syria

18. Pan oedd y chwaraeon pen-pum-mlynedd yn cael eu cynnal yn Tyrus gerbron y brenin,

19. anfonodd y Jason aflan hwn negeswyr i gynrychioli Jerwsalem. Antiochiaid oeddent, yn dwyn gyda hwy dri chan drachma o arian yn gyfraniad at yr aberth i Hercules. Ond mynnodd cludwyr yr arian eu hunain beidio â'u defnyddio at aberth, am nad oedd hynny'n weddus, ond eu neilltuo at ryw ddiben arall.

20. Felly, er i'r hwn a'i hanfonodd fwriadu'r arian fel cyfraniad at yr aberth i Hercules, o achos gweithred y cludwyr fe'i neilltuwyd at adeiladu llongau rhyfel teir-res.

21. Pan anfonwyd Apolonius fab Menestheus i'r Aifft ar gyfer gorseddiad y Brenin Philometor, cafodd Antiochus wybod fod y brenin hwnnw wedi troi yn erbyn ei bolisïau, a dechreuodd ystyried ei ddiogelwch ei hun; gan hynny, aeth i Jopa ac ymlaen i Jerwsalem.

22. Cafodd dderbyniad mawreddog gan Jason a'r ddinas, a'i dderbyn i mewn â ffaglau a banllefau. Wedi hynny, gwersyllodd ei fyddin yn Phenice.

Menelaus yn Meddiannu'r Archoffeiriadaeth

23. Tair blynedd yn ddiweddarach anfonodd Jason Menelaus, brawd y Simon y cyfeiriwyd ato uchod, i hebrwng yr arian at y brenin ac i weithredu penderfyniadau ynghylch materion o frys.

24. Cafodd Menelaus ei gymeradwyo i'r brenin, a gwenieithodd iddo â'i olwg awdurdodol; a llwyddodd i gael yr archoffeiriadaeth i'w afael ei hun trwy gynnig tri chan talent o arian yn fwy na Jason.

25. Wedi derbyn comisiwn y brenin, dychwelodd i Jerwsalem. Ni ddaeth ag unrhyw gymhwyster at yr archoffeiriadaeth gydag ef; yr oedd ei dymer yn ormesol a chreulon, a'i gynddaredd bwystfilaidd yn deilwng o farbariad.

26. Felly dyma Jason, dyn oedd wedi disodli ei frawd ei hun trwy lwgrwobrwyaeth, yntau wedi ei ddisodli yn yr un modd gan un arall, a'i yrru'n alltud i wlad Amon.

27. Ond am Menelaus, yr oedd ei afael yn y swydd, ond ni chadwodd at yr un o delerau ei addewid i'r brenin ynghylch yr arian, er i Sostratus, prif swyddog y gaer, fynnu'r taliad

28. yn rhinwedd ei gyfrifoldeb am gasglu'r symiau dyladwy. O ganlyniad, galwodd y brenin y ddau ato.

29. Gadawodd Menelaus Lysimachus, ei frawd ei hun, yn ddirprwy archoffeiriad; a dirprwy Sostratus oedd Crates, capten y Cypriaid.

Llofruddio Onias

30. Dyna oedd y sefyllfa pan wrthryfelodd pobl Tarsus a Malus oherwydd rhoi eu dinasoedd yn anrhegion i Antiochis, gordderch y brenin.

31. Gan hynny, aeth y brenin i ffwrdd ar frys i adfer trefn, gan adael yn ddirprwy Andronicus, un o'r uchel swyddogion.

32. Tybiodd Menelaus fod hwn yn gyfle da iddo, a lladrataodd rai o lestri aur y deml a'u rhoi'n anrheg i Andronicus; yr oedd wedi gwerthu rhai eraill i Tyrus a'r dinasoedd o amgylch.

33. Pan gafodd Onias wybodaeth sicr am y gweithredoedd hyn hefyd, fe'u cyhoeddodd ar led ar ôl cilio am seintwar i Daffne ger Antiochia.

34. O ganlyniad, aeth Menelaus yn ddirgel at Andronicus a phwyso arno i roi taw ar Onias. Aeth yntau at Onias yn hyderus y llwyddai trwy dwyll; fe'i cyfarchodd yn gyfeillgar a chynnig iddo ei law dde dan lw, a'i berswadio, er gwaethaf ei amheuon amdano, i ddod allan o'i seintwar. Ac fe'i llofruddiodd yn y fan a'r lle, heb unrhyw barch i ofynion cyfiawnder.

35. Bu'r lladd anghyfiawn hwn yn achos braw a dicter, nid yn unig ymhlith yr Iddewon ond hefyd ymhlith llawer o'r cenhedloedd eraill.

36. Pan ddychwelodd y brenin o ranbarthau Cilicia, anfonodd Iddewon y ddinas ato ynglŷn â llofruddio disynnwyr Onias, a hynny gyda chefnogaeth y Groegiaid, a oedd hefyd yn ffieiddio'r anfadwaith.

37. Trallodwyd Antiochus hyd waelod ei galon, a llanwyd ef â thosturi hyd at ddagrau wrth gofio am gallineb a sobrwydd yr ymadawedig.

38. Ar dân gan gynddaredd, fe ddihatrodd Andronicus ar unwaith o'i wisg borffor, a rhwygo'i ddillad oddi amdano. Arweiniodd ef trwy'r ddinas gyfan i'r man lle cyflawnodd ei weithred annuwiol yn erbyn Onias, ac yno fe waredodd y byd o'r llofrudd halogedig. Felly y rhoes yr Arglwydd ei gosb haeddiannol iddo.

Lladd Lysimachus a Gosod Menelaus ar Brawf

39. Yr oedd Lysimachus, â chydsyniad Menelaus, wedi ysbeilio llawer o wrthrychau cysegredig yn y ddinas. Aeth y sôn am hyn ar led, a chasglodd y bobl ynghyd yn erbyn Lysimachus, ond nid cyn i lawer o'r llestri aur gael eu gwasgaru.

40. Gan fod y torfeydd yn ymgynhyrfu ac yn ymgynddeiriogi, arfogodd Lysimachus agos i dair mil o ddynion, a chychwynnodd gyfres o ymosodiadau gwarthus dan arweiniad rhyw Awranus, dyn yr oedd ei ffolineb lawn cymaint â'i oedran.

41. Pan welodd y bobl ymosodiad Lysimachus, cipiodd rhai ohonynt gerrig, eraill flocynnau pren, ac eraill eto y lludw oedd ar lawr yno, lond eu dwylo, a'u lluchio'n wyllt ar Lysimachus a'i wŷr.

42. Felly, gan glwyfo llawer ohonynt, a tharo eraill i lawr, gyrasant bob un ohonynt ar ffo; ac am yr ysbeiliwr ei hun, lladdasant ef gerllaw'r drysorfa.

43. A dygwyd achos yn erbyn Menelaus ynglŷn â'r digwyddiadau hyn.

44. Daeth y brenin i lawr i Tyrus, a phlediwyd yr achos ger ei fron gan y tri dyn a anfonwyd gan y senedd.

45. Gwyddai Menelaus eisoes na allai ennill, ac addawodd swm sylweddol o arian i Ptolemeus fab Dorymenes, i'w gael i ennill y brenin i'w ochr ef.

46. O ganlyniad cymerodd Ptolemeus y brenin o'r neilltu i ryw gyntedd, fel petai am awyr iach, a chafodd ganddo newid ei feddwl.

47. Cyhoeddodd fod Menelaus, achos yr holl ddrwg, yn ddieuog o'r cyhuddiadau, a dedfrydodd i farwolaeth y cyhuddwyr druain, dynion y buasai hyd yn oed y Scythiaid, o'u clywed, wedi eu rhyddhau'n ddieuog.

48. Ond gweinyddwyd y gosb anghyfiawn yn ddiymdroi ar ddynion oedd wedi pledio achos y ddinas a'i phobl a'i llestri cysegredig.

49. Ffieiddiodd y Tyriaid hefyd yr anfadwaith, ac o'r herwydd darparasant yn helaeth ar gyfer eu hangladd.

50. Ond oherwydd gwanc y rhai oedd mewn grym, parhaodd Menelaus yn ei swydd, ac aeth ei ddrygioni ar gynnydd, nes iddo ddod yn archgynllwyniwr yn erbyn ei gyd-ddinasyddion.