Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15

Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Yr Iddewon dan Erledigaeth

1. Ychydig wedi hynny, anfonodd y brenin henwr o Atheniad i orfodi'r Iddewon i gefnu ar gyfreithiau eu hynafiaid ac i beidio â threfnu eu bywyd yn ôl cyfreithiau Duw;

2. yr oedd i halogi'r deml yn Jerwsalem a'i henwi hi'n deml Zeus o Olympus, a honno yn Garisim yn deml Zeus Noddwr Dieithriaid, yn ôl arfer trigolion y fro.

3. Ergyd drom ac annioddefol gan bawb oedd y drwg pellach hwn.

4. Oherwydd fe lanwyd y deml ag anlladrwydd a rhialtwch cenedl-ddynion yn eu difyrru eu hunain gyda phuteiniaid ac yn cydorwedd â gwragedd oddi mewn i'r cylch sanctaidd, ac at hynny'n dwyn pethau gwaharddedig i mewn iddo.

5. Pentyrrwyd ar yr allor bethau amhur a gwaharddedig gan y cyfreithiau.

6. Ni chaniateid i neb na chadw'r Saboth na pharchu'r gwyliau traddodiadol na chymaint â chyfaddef ei fod yn Iddew.

7. Pob mis, ar ddydd dathlu geni'r brenin, yr oeddent dan orfod llym i fynd a bwyta cig yr aberth, ac ar ŵyl Dionysus fe'u gorfodid i orymdeithio ag eiddew ar eu pennau er anrhydedd i Dionysus.

8. Fe ddeddfwyd yn y dinasoedd Helenistaidd cyfagos, ar awgrym Ptolemeus, fod yr un drefn i'w gosod ar Iddewon y dinasoedd hynny: sef eu bod i fwyta cig yr aberth,

9. a bod y rhai a wrthodai newid i'r ffyrdd Helenistaidd i'w dienyddio. Yr oedd y trallod a ddaethai ar eu gwarthaf yn amlwg i bawb.

10. Er enghraifft, dygwyd gerbron llys barn ddwy wraig oedd wedi enwaedu ar eu plant. Crogwyd eu babanod wrth eu bronnau a mynd â hwy yn sioe o amgylch y ddinas, ac yna eu lluchio i farwolaeth oddi ar y mur.

11. Ac yr oedd eraill wedi ymgynnull yn ddirgel yn yr ogofâu gerllaw i gadw'r seithfed dydd. Fe'u bradychwyd i Philip, ac fe'u llosgwyd yn fyw i gyd gyda'i gilydd am iddynt wrthod ar egwyddor eu hamddiffyn eu hunain, o barch tuag at y dydd mwyaf cysegredig.

Yr Arglwydd yn Cosbi ac yn Trugarhau

12. Gan hynny, yr wyf yn annog darllenwyr y llyfr hwn i beidio â digalonni o achos y trychinebau, ond i'w cyfrif fel cosbau a fwriadwyd nid i ddifa'n cenedl ond i'w disgyblu;

13. ac yn wir, arwydd o garedigrwydd mawr yw'r ffaith nad yw'r annuwiolion yn cael rhwydd hynt am amser hir, ond bod eu haeddiant yn dod arnynt yn ddi-oed.

14. Oherwydd yn achos y cenhedloedd eraill y mae'r Arglwydd yn disgwyl yn amyneddgar nes i'w pechodau gyrraedd eu penllanw, ac wedyn y mae'n eu cosbi; ond nid felly y barnodd yn ein hachos ni,

15. rhag iddo ddial arnom ar ôl i'n pechodau gyrraedd eu hanterth.

16. Gan hynny, nid yw byth yn troi ei drugaredd oddi wrthym, ac wrth ddisgyblu ei bobl trwy drallod nid yw'n cefnu arnynt. Ond dylai hyn o eiriau gennyf fod yn ddigon i'ch atgoffa o hynny;

17. wedi'r ychydig grwydro hwn rhaid ailgydio yn yr hanes.

Eleasar yn Marw dros ei Ffydd

18. Yr oedd Eleasar yn un o'r ysgrifenyddion blaenllaw, yn ddyn oedd eisoes wedi cyrraedd oedran mawr, ac yn hardd iawn o ran pryd a gwedd. A dyma lle'r oedd yn cael ei orfodi i agor ei geg led ei ben ac i fwyta cig moch.

19. Ond dewisach ganddo ef oedd marw'n anrhydeddus na byw'n halogedig, a dechreuodd o'i wirfodd gerdded tuag at yr ystanc

20. gan boeri'r cig allan, fel y dylai pawb wneud sy'n ddigon dewr i ymwrthod â phethau nad yw'n gyfreithlon eu bwyta, pa faint bynnag y mae dyn yn caru byw.

21. Yr oedd y dynion oedd yn goruchwylio'r pryd anghyfreithlon hwn yn hen gyfarwydd ag Eleasar, ac am hynny cymerasant ef o'r neilltu a'i annog i ddarparu a pharatoi ei hun gig y byddai'n rhydd iddo ei fwyta, ac i ffugio ei fod yn bwyta cig yr aberth yn unol â gorchymyn y brenin.

22. Pe gwnâi hynny, byddai'n dianc rhag angau a manteisio ar gymwynas oedd yn ddyladwy i'w hen gyfeillgarwch â hwy.

23. Ond yr oedd ei ddewis ef yn un hardd, yn deilwng o'i oedran, o urddas ei henaint, o'r penwynni a ddaeth iddo o'i lafur nodedig, o'i fuchedd lân er ei febyd, ac yn anad dim o'r gyfraith sanctaidd a sefydlwyd gan Dduw. Yn gyson â hyn atebodd ar ei union, “Anfonwch fi i Hades.

24. Oherwydd nid yw ffugio yn deilwng i rywun o'n hoedran ni. Byddai llawer o'r bobl ifainc yn tybio fod Eleasar, yn ddeg a phedwar ugain oed, wedi troi at ffordd estron o fyw,

25. a chaent eu harwain ar gyfeiliorn o'm hachos i, drwy weithred a ffugiwyd gennyf fi i ennill ysbaid byr o fywyd; a'r hyn a gawn i fyddai henaint wedi ei halogi a'i lychwino.

26. Oherwydd hyd yn oed os achubaf fi fy hun am y tro rhag dialedd dynol, ni chaf ddianc byth o ddwylo'r Hollalluog, p'run ai byw ai marw fyddaf.

27. Gan hynny, os ildiaf fy mywyd yn ddewr yn awr, fe'm dangosaf fy hun yn deilwng o'm henaint,

28. a byddaf wedi gadael i'r bobl ifainc esiampl anrhydeddus o farwolaeth ewyllysgar ac anrhydeddus dros y cyfreithiau sanctaidd a chysegredig.”

29. Gyda'r geiriau hyn aeth ar ei union tuag at yr ystanc. Yr oedd yr ewyllys da a deimlai ei warcheidwaid tuag ato ychydig ynghynt wedi troi'n ewyllys drwg, am fod y geiriau yr oedd newydd eu llefaru yn wallgofrwydd yn eu golwg hwy.

30. A phan oedd ar drengi dan yr ergydion, meddai dan riddfan yn uchel, “Y mae'r Arglwydd yn ei wybodaeth sanctaidd yn gweld fy mod, er y gallwn ddianc rhag angau, yn dioddef yn fy nghorff boenau creulon y fflangell, ond yn fy enaid yn goddef hynny'n llawen o barchedig ofn tuag ato ef.”

31. A dyna'r modd yr ymadawodd ef â'r fuchedd hon, gan adael yn ei farwolaeth esiampl o anrhydedd a symbyliad i rinwedd, nid yn unig i'r ifainc ond i'r mwyafrif o'i gyd-genedl.