Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15

Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gwrthryfel Jwdas Macabeus

1. Dechreuodd Jwdas, a elwid hefyd Macabeus, a'i ddilynwyr lithro'n ddirgel i mewn i'r pentrefi a galw ar eu perthnasau i ymuno â hwy; a thrwy listio'r rheini oedd wedi parhau'n ffyddlon i Iddewiaeth, casglasant ynghyd tua chwe mil o wŷr.

2. Galwasant ar yr Arglwydd ar iddo edrych ar ei bobl yn eu gorthrwm dan draed pawb, a thosturio wrth y deml yn ei halogiad gan yr annuwiol;

3. ar iddo drugarhau wrth y ddinas yr oedd ei dinistr ar fedr ei lefelu i'r llawr, a gwrando ar y gwaed oedd yn galw arno'n daer;

4. ac ar iddo hefyd gofio'r modd y lladdwyd y plant diniwed yn groes i'r gyfraith, a'r cablu a fu ar ei enw ef ei hun, a dangos ei atgasedd o'r fath ddrygioni.

5. Unwaith y cafodd Macabeus fyddin o'i amgylch, ni allai'r Cenhedloedd ei wrthsefyll mwyach, am fod digofaint yr Arglwydd wedi troi'n drugaredd.

6. Ymosodai'n ddirybudd ar drefi a phentrefi a'u rhoi ar dân, a thrwy gymryd meddiant o'r safleoedd gorau gyrrodd laweroedd o'i elynion ar ffo.

7. Manteisiai'n arbennig ar gymorth oriau'r nos ar gyfer cyrchoedd o'r fath. Ac yr oedd sôn am ei wrhydri ym mhobman.

Ptolemeus yn Anfon Nicanor a Jwdas yn ei Orchfygu.

8. Pan sylweddolodd Philip fod y gwron yn cyrraedd ei nod fesul tipyn, a bod ei achos yn ffynnu fwyfwy oherwydd ei lwyddiannau, ysgrifennodd at Ptolemeus, llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, gan ofyn iddo ddod i gynorthwyo achos y brenin.

9. Heb oedi dim dewisodd yntau Nicanor fab Patroclus, un o brif Gyfeillion y brenin, a'i anfon allan, yn ben ar fyddin o ugain mil o leiaf o ddynion o bob hil, i ddifa holl genedl yr Iddewon; a chydag ef fe benododd Gorgias, cadfridog a chanddo brofiad helaeth ar faes y gad.

10. A phenderfynodd Nicanor godi'r cyfan o dreth y brenin i'r Rhufeiniaid, swm o ddwy fil o dalentau, trwy werthu carcharorion Iddewig.

11. Anfonodd air ar ei union i drefi'r arfordir i'w gwahodd i werthiant o gaethweision Iddewig, gan addo'u trosglwyddo fesul naw deg y dalent. Ni ddisgwyliai'r gosb yr oedd yr Hollalluog am ei hanfon ar ei warthaf.

12. Daeth y newydd at Jwdas fod Nicanor yn dynesu, a rhoes yntau wybod i'w ddilynwyr fod byddin y gelyn gerllaw.

13. O ganlyniad ymwasgarodd y llyfrgwn a'r rhai heb ffydd yng nghyfiawnder Duw, a ffoi o'r fan.

14. Ond gwerthodd y lleill bopeth oedd ganddynt yn weddill, gan weddïo ag un llais ar yr Arglwydd ar iddo'u hachub rhag y Nicanor annuwiol hwn, a oedd wedi eu gwerthu cyn y frwydr;

15. ac ar iddo wneud hynny, os nad er eu mwyn hwy eu hunain, yna er mwyn y cyfamodau a wnaethai â'u hynafiaid, ac er mwyn ei enw sanctaidd a mawreddog, yr enw a roesai arnynt.

16. Casglodd Macabeus ei wŷr ynghyd, chwe mil ohonynt, a'u hannog i beidio â chymryd eu hysigo gan arswyd o'r gelyn, nac ofni'r llu mawr o'r Cenhedloedd oedd yn ymosod arnynt yn anghyfiawn, ond i ymladd yn deilwng o'u tras,

17. gan gadw o flaen eu llygaid y sarhad anghyfreithlon a ddygwyd gan y gelyn ar y deml sanctaidd, y trais gwatwarus a fu ar y ddinas, ac ar ben hynny yr ymdrechion i ddileu eu harferion traddodiadol.

18. “Y maent hwy,” meddai, “yn ymddiried mewn grym arfau ynghyd â gweithredoedd trahaus, a ninnau yn y Duw Hollalluog, a all fwrw i lawr ag un amnaid y rhai sy'n ymosod arnom, ac yn wir yr holl fyd.”

19. Aeth yn ei flaen i sôn wrthynt am y cymorth a gawsent yn amser eu hynafiaid: am hwnnw yn amser Senacherib, pan laddwyd cant a phedwar ugain a phump o filoedd;

20. ac am y frwydr a fu ym Mabilonia yn erbyn y Galatiaid, pryd y daeth cyfanswm o wyth mil i'r gad ynghyd â phedair mil o Facedoniaid. Fe'u cafodd y Macedoniaid eu hunain mewn anawsterau, ond fe laddodd yr wyth mil, trwy'r cymorth a ddaeth iddynt o'r nef, gant ac ugain o filoedd, ac ennill ysbail sylweddol.

21. Wedi iddo'u calonogi â'r geiriau hyn a'u gwneud yn barod i farw dros eu cyfreithiau a'u gwlad, rhannodd ei fyddin yn bedair adran.

22. Hefyd penododd ei frodyr, Simon, Joseff a Jonathan, i arwain adrannau, gyda mil a hanner o wŷr dan orchymyn pob un,

23. ac Eleasar hefyd. Wedi darllen y llyfr sanctaidd a rhoi'r arwyddair “Duw yw'n cymorth”, fe'i gosododd ei hun ar flaen y gatrawd gyntaf ac ymosod ar Nicanor.

24. A'r Hollalluog yn ymladd o'u plaid, lladdasant dros naw mil o'r gelyn a chlwyfo ac anafu'r rhan fwyaf o fyddin Nicanor, a'u gorfodi oll i ffoi.

25. Cymerasant arian y bobl oedd wedi dod i'w prynu'n gaethweision; ac wedi eu hymlid gryn bellter rhoesant y gorau iddi am ei bod yn gyfyng arnynt o ran amser;

26. oherwydd y dydd cyn y Saboth oedd hi, ac felly nid oeddent am barhau i'w herlid.

27. Wedi casglu arfau'r gelyn ynghyd ac ysbeilio'u meirw, aethant ati i ddathlu'r Saboth, gan fendithio'r Arglwydd yn helaeth a diolch iddo am eu cadw hyd at y dydd hwnnw, a bennwyd ganddo yn ddechreuad ei dosturi tuag atynt.

28. Wedi'r Saboth, rhanasant beth o'r ysbail i'r rheini oedd wedi cael eu cam-drin, ac i'r gweddwon a'r plant amddifad, a'r gweddill iddynt hwy eu hunain a'u plant.

29. Ar ôl gwneud hynny, ymunodd pawb i ymbil ar yr Arglwydd trugarog, gan ofyn iddo ymgymodi'n llwyr â'i weision.

Jwdas yn Gorchfygu Timotheus a Bacchides

30. Yna aethant i'r afael â byddinoedd Timotheus a Bacchides. Lladdasant fwy nag ugain mil ohonynt ac ennill meddiant llwyr ar rai caerau uchel. Yr oedd yr anrhaith yn helaeth, a rhanasant ef yn gyfartal rhyngddynt hwy eu hunain, y rheini oedd wedi cael eu cam-drin, y plant amddifad a'r gweddwon, a'r hynafgwyr hefyd.

31. Casglasant ynghyd yn ofalus arfau'r gelyn, a'u storio oll mewn mannau cyfleus; cludasant weddill yr ysbail i Jerwsalem.

32. Lladdasant brif swyddog byddin Timotheus, dyn annuwiol iawn a oedd wedi peri llawer o drallod i'r Iddewon.

33. Wrth ddathlu'r fuddugoliaeth yn ninas eu hynafiaid llosgasant yn fyw y dynion oedd wedi rhoi'r pyrth sanctaidd ar dân, ac yn eu plith Calisthenes, a oedd wedi ffoi am loches i ryw dŷ bychan; cafodd hwnnw'r tâl a haeddai ei annuwioldeb.

34. A chafodd Nicanor, a drwythwyd mewn pechod ac a ddaeth â'r mil o fasnachwyr i brynu'r Iddewon yn gaethweision,

35. ei ddarostwng trwy gymorth yr Arglwydd gan y rhai oedd yn llai na neb yn ei olwg ef. Wedi tynnu ei wisg swyddogol oddi amdano fe ymlwybrodd trwy'r canolbarth allan o olwg pawb, fel caethwas ar ffo, nes cyrraedd Antiochia; ac yn hynny bu'n eithriadol o ffodus, o gofio i'w fyddin gael ei dinistrio.

36. Yr oedd wedi addo talu'r dreth ddyledus i'r Rhufeiniaid trwy wneud trigolion Jerwsalem yn garcharorion rhyfel, ond cyhoeddi i'r byd a wnaeth fod gan yr Iddewon noddwr i ymladd o'u plaid, a'u bod am y rheswm hwn yn anorchfygol, am eu bod yn dilyn y cyfreithiau a osododd ef arnynt.