Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15

Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cynnen rhwng Onias a Simon

1. Yr oedd perffaith hedd yn teyrnasu yn y ddinas sanctaidd, a'r cyfreithiau'n cael eu cadw'n ddi-fai dan ddylanwad duwioldeb Onias yr archoffeiriad a'i atgasedd at ddrygioni.

2. Ac yr oedd y brenhinoedd hwythau yn anrhydeddu'r cysegr a'r deml, ac yn eu gogoneddu â rhoddion ysblennydd iawn.

3. Yn wir, fe aeth Selewcus brenin Asia mor bell â thalu allan o'i gyllid personol holl dreuliau gweinyddu'r aberthau.

4. Ond cododd cynnen rhwng rhyw Simon, gŵr o lwyth Benjamin, goruchwyliwr y deml wrth ei swydd, a'r archoffeiriad ynghylch rheolaeth marchnadoedd y ddinas.

5. Pan fethodd Simon gael y trechaf ar Onias, aeth at Apolonius fab Tharseus, a oedd ar y pryd yn llywodraethwr ar Celo-Syria a Phenice.

6. Dywedodd wrtho fod y drysorfa yn Jerwsalem mor llawn o drysor annisgrifiadwy nes bod cyfanswm ei werth y tu hwnt i gyfrif; nid oedd yn cyfateb, meddai, i gyfrif yr aberthau, a gellid dod ag ef dan awdurdod y brenin.

Anfon Heliodorus i Jerwsalem

7. Cafodd Apolonius gyfarfod â'r brenin, a rhoes wybod iddo am yr honiadau a wnaethpwyd iddo ynghylch yr arian. Dewisodd y brenin Heliodorus, ei brif weinidog, a'i anfon dan orchymyn i drefnu symud ymaith yr arian dan sylw.

8. Cychwynnodd Heliodorus ar ei union dan esgus ymweld yn swyddogol â dinasoedd Celo-Syria a Phenice, ond ei wir amcan oedd cyflawni cynllun y brenin.

9. Wedi cyrraedd Jerwsalem a chael derbyniad croesawus gan archoffeiriad y ddinas, cyfeiriodd at yr hyn oedd wedi ei ddwyn i'r golwg, ac esboniodd bwrpas ei ymweliad, gan holi a oedd y stori'n wir.

10. Rhoes yr archoffeiriad ar ddeall mai arian wedi ei ymddiried ar gyfer gwragedd gweddw a phlant amddifad oedd yno,

11. heblaw rhywfaint o eiddo Hyrcanus fab Tobias, gŵr o gryn urddas; ac er gwaethaf ensyniadau'r Simon annuwiol hwnnw, pedwar can talent o arian a dau gan talent o aur oedd y cyfanswm;

12. ac ni ellid mewn modd yn y byd wneud cam â'r bobl oedd wedi rhoi eu hymddiriedaeth yng nghysegredigrwydd y fangre ac yn urddas seintwar a theml a berchid trwy'r byd i gyd.

Heliodorus yn y Deml

13. Ond mynnai Heliodorus, ar bwys ei orchmynion gan y brenin, fod rhaid atafaelu'r arian hwn i'r drysorfa frenhinol.

14. Ar y dydd a bennodd, aeth i mewn i'r deml i wneud arolwg o'r adneuon; a gwelwyd ing pryder nid bychan trwy'r ddinas gyfan.

15. Fe'u taflodd yr offeiriaid eu hunain yn eu gwisgoedd offeiriadol ar eu hyd o flaen yr allor, gan alw i'r nef ar i awdur deddf yr adneuon gadw'r cronfeydd yn ddiogel i'r adneuwyr.

16. Yr oedd yr olwg ar yr archoffeiriad yn loes i'r galon, a'r lliw a wibiai dros ei wyneb yn mynegi ing ei enaid;

17. oherwydd yr oedd corff y dyn, yng ngafael rhyw ofn a chryndod, yn dangos yn amlwg i'r gwylwyr y dolur oedd yn ei galon.

18. Ar ben hynny, yr oedd pobl yn rhuthro'n finteioedd allan o'u tai i wneud deisyfiadau cyhoeddus o achos y gwarth oedd ar ddod ar y deml.

19. Yr oedd y strydoedd yn llawn o wragedd mewn sachlieiniau wedi eu torchi dan eu bronnau; a'r merched ifainc a gedwid o'r neilltu, yr oedd rhai ohonynt yn rhedeg at byrth eu tai, rhai at y muriau allanol, ac eraill yn pwyso allan trwy'r ffenestri,

20. a phob un ohonynt â'i dwylo wedi eu hestyn tua'r nef mewn ymbil taer.

21. Golygfa druenus oedd gweld y dyrfa'n gorwedd blith draphlith, a'r archoffeiriad yn disgwyl yn ing mawr ei bryder.

Yr Arglwydd yn Gwarchod dros ei Deml

22. A hwythau felly'n galw ar yr Arglwydd hollalluog i gadw'r cronfeydd yn ddiogel i'w hadneuwyr,

23. dechreuodd Heliodorus ddwyn ei fwriad i ben.

24. Ond gydag iddo ef a'i osgordd arfog gyrraedd y man gerllaw'r drysorfa, dyma Benarglwydd yr ysbrydion a phob gallu yn peri gweledigaeth mor arswydus nes troi pawb a fentrodd yno gyda Heliodorus yn llipa gan ofn, wedi eu syfrdanu gan allu Duw.

25. Gwelsant farch ysblennydd iawn ei harnais, a marchog erchyll ei wedd ar ei gefn; rhuthrodd y march yn wyllt ar Heliodorus ac ymosod arno â'i garnau blaen. Yr oedd marchog y weledigaeth yn gwisgo arfwisg gyfan o aur.

26. A heblaw hwnnw, fe ymddangosodd dau ddyn ifanc arall eithriadol eu nerth a hardd iawn eu gwedd ac ardderchog eu gwisg. Safodd y ddau hyn o boptu i Heliodorus, gan ei fflangellu'n ddi-baid a bwrw arno ergydion lawer.

27. Cwympodd ef yn sydyn i'r llawr â thywyllwch dudew o'i amgylch. Fe'i codwyd yn ddiymdroi, a'i osod mewn cadair gludo.

28. A dyma'r dyn, a oedd ychydig ynghynt wedi dod i mewn i'r drysorfa honno gyda gosgordd niferus a'i holl warchodlu arfog, yn cael ei gludo allan yn ddiymadferth gan ddynion oedd yn cydnabod yn agored benarglwyddiaeth Duw.

Onias yn Gweddïo dros Adferiad Heliodorus

29. Tra oedd ef, o achos y weithred ddwyfol, yn gorwedd yn fud a heb unrhyw obaith am adferiad,

30. yr oedd yr Iddewon yn bendithio'r Arglwydd am iddo ogoneddu ei fangre gysegredig mewn ffordd mor wyrthiol. Yr oedd y deml, a fuasai ychydig ynghynt yn llawn ofn a chynnwrf, yn awr, o achos ymddangosiad yr Arglwydd hollalluog, yn gyforiog o lawenydd a gorfoledd.

31. Ac yn fuan ceisiodd rhai o gymdeithion Heliodorus gan Onias alw ar y Goruchaf, a rhoi o'i raslonrwydd ei fywyd i ddyn oedd yn ddiau ar dynnu ei anadl olaf.

32. Yr oedd yr archoffeiriad yn ofni y barnai'r brenin fod yr Iddewon wedi cyflawni rhyw ddichell yn achos Heliodorus, ac o ganlyniad fe offrymodd aberth dros adferiad y dyn.

33. Wrth iddo gyflawni'r aberth dyhuddol, ymddangosodd yr un dynion ifainc i Heliodorus drachefn, wedi eu dilladu yn yr un gwisgoedd, a sefyll yno a dweud, “Mawr y bo dy ddiolch i'r archoffeiriad Onias, oherwydd o'i achos ef y mae'r Arglwydd yn rasol wedi rhoi dy fywyd iti.

34. A thithau, a ddioddefodd fflangell y nef, rho wybod i bawb am rym nerth Duw.” Ac wedi dweud hynny diflanasant.

Heliodorus yn Moliannu Duw

35. Offrymodd Heliodorus aberth i'r Arglwydd, a gwnaeth addunedau helaeth i'r un oedd wedi ei gadw'n fyw. Ac wedi ffarwelio ag Onias, arweiniodd ei fyddin yn ôl at y brenin.

36. Tystiai wrth bawb am y gweithredoedd o eiddo'r Duw Goruchaf a welsai â'i lygaid ei hun.

37. Pan ofynnodd y brenin i Heliodorus sut ddyn a fyddai'n addas i'w anfon i Jerwsalem mewn ymgais arall, dywedodd ef,

38. “Anfon yno unrhyw elyn neu gynllwyniwr yn erbyn y llywodraeth, ac fe gei di ef yn ôl wedi ei fflangellu, os yn wir yr achubir ei fywyd o gwbl, oherwydd yn ddiau y mae rhyw allu dwyfol o amgylch y fangre;

39. oherwydd y mae'r hwn sydd â'i drigfan yn y nef yn gwylio dros y fangre honno ac yn ei hamddiffyn, ac yn taro a rhoi diwedd ar bwy bynnag a ddaw yno er drygioni.”

40. A dyna'r hanes am Heliodorus a'r modd y cadwyd y drysorfa'n ddiogel.