anfonodd y Jason aflan hwn negeswyr i gynrychioli Jerwsalem. Antiochiaid oeddent, yn dwyn gyda hwy dri chan drachma o arian yn gyfraniad at yr aberth i Hercules. Ond mynnodd cludwyr yr arian eu hunain beidio â'u defnyddio at aberth, am nad oedd hynny'n weddus, ond eu neilltuo at ryw ddiben arall.