Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15

Hen Destament

Testament Newydd

2 Macabeaid 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Yr Arglwydd yn Cosbi Antiochus

1. Tua'r amser hwnnw digwyddai fod Antiochus wedi dychwelyd mewn anhrefn o barthau gwlad Persia.

2. Yr oedd wedi mynd i mewn i'r ddinas a elwir Persepolis a cheisio ysbeilio'i themlau a'i chymryd hi i'w feddiant. Parodd hyn i'r bobl ruthro i gymryd arfau i'w hamddiffyn, a'r canlyniad fu i Antiochus gael ei yrru ar ffo gan y trigolion a gorfod cilio mewn gwarth.

3. Pan oedd yn ardal Ecbatana daeth y newydd ato am helynt Nicanor ac am Timotheus a'i fyddin.

4. Yng nghynnwrf ei ddicter daeth i'w feddwl wneud i'r Iddewon dalu am y niwed a gafodd gan y rhai oedd wedi ei yrru ar ffo, a gorchmynnodd i yrrwr ei gerbyd fwrw ymlaen heb aros yn unman nes cyrraedd pen y daith. Ond yr oedd barnedigaeth y nef yn cyd-deithio ag ef oherwydd iddo ddweud yn ei draha, “Pan gyrhaeddaf yno, fe drof Jerwsalem yn gladdfa gyffredin i'r Iddewon.”

5. A dyma'r Arglwydd sy'n gweld popeth, Duw Israel, yn ei daro â chlefyd na ellid na'i wella na'i weld. Nid cynt y llefarodd y gair nag y cydiodd poen marwol yn ei goluddion, a chnofeydd mewnol dirdynnol,

6. fel y gweddai'n iawn i un oedd wedi dirdynnu coluddion pobl eraill ag arteithiau aml a dieithr.

7. Ond nid oedd dim pall ar ei haerllugrwydd; yn llawn traha, ac â'i ddicter yn erbyn yr Iddewon yn wenfflam, daliai ati i orchymyn brys. Ond wrth i'w gerbyd ruthro yn ei flaen, syrthiodd allan ohono. Yr oedd ei godwm mor drwm nes rhwygo'n dost bob aelod o'i gorff.

8. Ac felly, hwnnw a fu gynnau'n ei gyfrif ei hun gymaint yn uwch na dyn ag i fedru rhoi gorchmynion i donnau'r môr, ac yn tybio y gallai bwyso uchelderau'r mynyddoedd mewn clorian, dyma ef yn awr, wedi cael ei fwrw i lawr, yn cael ei gludo ar elor, yn amlygiad clir i bawb o allu Duw.

9. Yn wir, heidiodd pryfed allan o gorff y dyn annuwiol hwn, a dechreuodd ei gnawd ddadfeilio ac yntau'n dal yn fyw, gan beri poenau ingol. Llethwyd y fyddin gyfan gan ddrewdod ei gorff pydredig.

10. Ie, y dyn a oedd ychydig ynghynt yn tybio y gallai gyffwrdd â sêr y nefoedd, yn awr ni allai neb ei gludo o achos bwrn annioddefol y drewdod.

11. Y pryd hwnnw, felly, dechreuodd y brenin drylliedig roi'r gorau i'w holl draha, a dod i wir ddealltwriaeth wrth i frathiadau fflangell Duw ddwysáu o funud i funud.

12. Gan fethu goddef ei ddrewdod ei hun meddai, “Gweddus yw ymostwng i Dduw, a gweddus i fod meidrol yw peidio â'i gyfrif ei hun yn gydradd â Duw.”

13. Yna gweddïodd y dyn halogedig hwn ar yr Arglwydd, yr hwn na fyddai'n trugarhau wrtho mwyach, gan addo fel hyn:

14. byddai'n cyhoeddi rhyddid i'r ddinas sanctaidd, y bu'n brysio iddi i'w lefelu i'r llawr a'i throi'n gladdfa gyffredin;

15. byddai'n gwneud yr Iddewon yn gydradd bob un ohonynt â'r Atheniaid, er iddo benderfynu ynghynt nad oeddent yn deilwng o'u claddu, ond eu bod i'w lluchio allan, hwy a'u plant, yn fwyd i'r adar a'r bwystfilod;

16. byddai'n addurno â rhoddion gwych iawn y deml sanctaidd a ysbeiliwyd ganddo gynt, ac yn dychwelyd y llestri cysegredig bob un ar raddfa lawer helaethach; a byddai'n talu o'i gyllid personol y costau a gyfrifid i'r aberthau.

17. Ar ben hynny fe ddôi yntau'n Iddew, ac ymweld â phob rhan o'r byd cyfannedd i gyhoeddi gallu Duw.

Llythyr Antiochus at yr Iddewon

18. Ond ni bu dim pall ar ei boenau, oherwydd yr oedd barnedigaeth gyfiawn Duw wedi dod arno. Felly, mewn anobaith am ei gyflwr, ysgrifennodd at yr Iddewon y llythyr a welir isod. Natur ymbil sydd iddo, a dyma'i gynnwys:

19. “At yr Iddewon, fy ninasyddion teilwng, cyfarchion lawer ac iechyd a llwyddiant oddi wrth y brenin a'r cadfridog Antiochus.

20. Bydded i chwi a'ch plant ffynnu ac i'ch amgylchiadau fod wrth eich bodd.

21. A'm gobaith yn y nef, yr wyf yn galw i gof yn serchog eich parch a'ch ewyllys da. Pan oeddwn yn dychwelyd o barthau Persia, daeth gwaeledd beichus arnaf, a bernais mai rhaid oedd ystyried diogelwch cyffredinol pawb.

22. Nid wyf yn digalonni am fy nghyflwr; i'r gwrthwyneb, yr wyf yn llawn gobaith y caf ryddhad o'm gwaeledd.

23. Eto, yr wyf wedi ystyried y byddai fy nhad yntau, bob tro y byddai'n mynd â'i fyddin i'r taleithiau dwyreiniol, yn pennu ei olynydd,

24. er mwyn i drigolion y wlad, pe digwyddai rhywbeth annisgwyl neu pe cyrhaeddai rhyw adroddiad am ryw drafferth, beidio â chynhyrfu gan y byddent yn gwybod i bwy y byddai'r deyrnas wedi ei gadael.

25. Yr wyf hefyd wedi canfod bod rheolwyr y gwledydd cyfagos ar ffiniau fy nheyrnas yn disgwyl eu cyfle ac yn aros i weld beth a ddaw. Gan hynny, yr wyf wedi pennu fy mab Antiochus yn frenin. Yr wyf wedi ei ymddiried a'i gyflwyno fwy nag unwaith i'r rhan fwyaf ohonoch pan fyddwn yn ymweld â'r taleithiau dwyreiniol. Yr wyf yn anfon ato y llythyr a welir isod.

26. Gan hynny, yr wyf yn eich annog ac yn hawlio gennych ddwyn ar gof y cymwynasau a wneuthum â chwi yn gyffredinol ac yn unigol, a chadw, bob un ohonoch, yr ewyllys da sydd gennych tuag ataf fi ac at fy mab.

27. Oherwydd yr wyf yn argyhoeddedig y bydd ef yn dangos pob ystyriaeth i chwi, gan ddilyn fy mwriadau yn deg ac yn garedig.”

28. Felly y dioddefodd y llofrudd a'r cablwr hwn erchyllterau cynddrwg â'r rhai yr oedd ef wedi eu bwrw ar eraill; a daeth ei yrfa i'w therfyn mewn tranc truenus ar fynydd-dir gwlad estron.

29. Cludwyd ei gorff yn ôl gan Philip, ei gyfaill mynwesol; ond oherwydd fod arno ofn mab Antiochus, ciliodd hwn draw at Ptolemeus Philometor yn yr Aifft.